


Ydych chi wedi cofrestru am Y Wobr Dug Caeredin ond yn ansicr sut neu ble i wneud eich alldeithiau? Ymunwch â ni ar Alldaith Agored efo bobl ifanc eraill i gwblhau eich alldeithiau Dug Caeredin yng nghanol mynyddoedd Cymru!

Cofrestru yma!
De Cymru
Rydym yn rhedeg Alldeithiau Agored Aur yng ngwyliau haf 2023. Byddwn yn teithio ar draws parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog dros yr alldeithiau, a gobeithio gweld golygfeydd a'r bywyd gwyllt gwych mae'r ardal yn cynnig. Bydd y diwrnod hyfforddiant yn digwydd yn ardal Fforest Fawr, ger Castell Coch ar ochr yr A470. Cyfle gwych i ddod i adnabod eraill, gan gynnwys staff yr Urdd.
Pris ar gyfer popeth yw £385yp, sy'n cynnwys offer*, ffioedd gwersyll a chludiant. Bydd angen i chi trefnu bwyd eich hun ac offer personol.
Byddwch yn derbyn crys T GAA hefyd!
Edrychwch ar y dyddiadau isod a gofrestrwch i gadw le!
*Offer i fenthyg yn cynnwys: pabell, sach gefn, mat cysgu, stof coginio, map a chwmpawd
I gwblhau'r 2 alldaith, mae nifer o bethau bydd angen i chi gyflawni:
- Rhaid cymryd rhan yn y diwrnod hyfforddiant, dim ots faint chi'n gwybod yn barod - prif bwrpas y dydd yw dod i'ch adnabod a rhannu gwybodaeth bwysig.
- Byddaf yn rhannu gwybodaeth bwysig efo chi dros e-bost
- Bydd angen i ni drefnu sesiwn cynllunio llwybr cyn y 2 alldaith - gallwn drefnu dyddiad yn agosach at yr alldeithiau
Dilyn y 20 amod sydd wedi'i setio gan y Wobr Dug Caeredin, sy'n cynnwys:
- Cerdded fel grŵp o 4-7 aelod
- Fel grŵp, ysgrifennu cynllun bwyd a cherdyn cerdded i bob diwrnod am y 2 alldaith!
- Fel grŵp, cyflawni nod penodol dros y 2 alldaith
- Hunangynhaliol am yr holl amser, a cherdded yw eich ffordd o deithio!
- Gwersylla dros nos
Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth i gyd cyn cofrestru. Byddwch angen talu blaendal i gadw eich lle, a thalu'r gweddill erbyn y diwrnod hyfforddiant