Mynydda a Cherdded

Rydym yn darparu achrediadau Mountain Training Cymru (Sgiliau bryniau a sgiliau Mynydd) sydd yn amrywio o rai ar gyfer dechreuwyr hyd at rhai sydd gyda mwy o brofiad. Os nad ydych am weithio tuag at achrediad, gall ein hyfforddwyr profiadol arwain eich grwp ar amryw o fynyddoedd.

 

 

 

 

Hyfforddiant Cymwysterau Mynydda

Rydym yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant Arweinydd Tir Isel yn aml trwy'r flwyddyn. Os hoffech gofrestru am unrhyw gyrsiau, plîs ewch i wefan MTA:

www.mountain-training.org/walking/skills-and-awards/lowland-leader


Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs cysylltwch â ni

 

 

Gweithgareddau Mynydda

Rydym yn gallu darparu diwrnodau neu sesiynau mynydda i oedolion, disgyblion, teuluoedd neu grŵp o ffrindiau. Gallwn deilwra diwrnodau i siwtio chi, yn dibynnu ar ba fath o sgiliau hoffech chi ddysgu neu ddatblygu. Isod welwch enghreifftiau o'r mathau o weithgareddau mynydda gallwn gynnig:

  • Sgiliau map a chwmpawd sylfaenol neu arbenigol
  • Her tri chopa
  • Hanes a chwedlau mynyddoedd Cymru
  • Darganfod mynyddoedd Eryri
  • Cyflwyniad i sgramblo
  • Cerdded trwy'r nos (night nav) ac aros mewn Bothy
  • Gwaith rhaff

 

 

Nol

Os hoffech gwybod mwy, plîs cysylltwch â ni