Preswyl Dug Caeredin

Cwrs Preswyl Dug Caeredin – Antur Hydref!

Antur, Cyfeillgarwch a Chymraeg

Ymunwch â ni ym mis Hydref am brofiad preswyl bythgofiadwy fel rhan o’ch Gwobr Aur Dug Caeredin. Mae’r cwrs yn llawn antur awyr agored, cyfeillgarwch newydd, a phrofiadau unigryw. Os ydych chi’n caru natur neu’n chwilio am her newydd – dyma’r cyfle perffaith i gamu allan o’ch parth cysur!

Dyddiadau: 27-30ain Hydref 2025
Lleoliad: Glan Llyn Isa', Bala
Ar gyfer: Pobl ifanc 16–25 oed sy’n cwblhau eu Gwobr Aur DofE

Beth i ddisgwyl - wythnos llawn antur a sgiliau newydd!

 

Gweithgareddau Awyr Agored Cyffrous

O deithiau cerdded a chrefft y goedwig i heriau tim a nosweithiau o amgylch y tan - mae pob diwrnod yn wahanol. Cymerwch rhan mewn amryw o weithgareddau gan cynnwys mynydda, padlfyrddio, dringo, cerdded afon a gwylltgrefft* dros yr wythnos. 

 

Sgiliau Bywyd

Datblygwch hyder, arweinyddiaeth a gwytnwch drwy brofiadau ymarferol yn yr awyr agored

 

Cyfle i Wneud Ffrindiau Newydd

Cwrdd a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Rhannwch straeon, cydweithio, a chreu cysylltiadau parhaol

 

Cefnogaeth Ddwyieithog

Mae'r gweithgareddau a'r adnoddau ar gael i ddysgwyr hefyd - trochwch eich hun yn yr iaith Gymraeg drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda siaradwyr Cymraeg eraill. Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich sgiliau siarad mewn amgylchedd cefnogol a naturiol.

 

*Mae'r gweithgareddau yn dibynnu ar y tywydd, byddwn yn cadarnhau gweithgareddau ar y diwrnod cyntaf

 

 

Llety a Phrydau Bwyd

Byddwch yn aros mewn ystafelloedd ensuite cyfforddus gyda mynediad i gegin a ystafell fwyta gyda llosgwr coed – perffaith ar gyfer nosweithiau cynnes ar ôl diwrnod o antur.

Byddwn hefyd yn defnyddio ein cegin awyr agored lle byddwn yn coginio ein bwyd ein hunain gyda’n gilydd yn y nosweithiau – cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd a mwynhau bwyd fel grŵp.

Mae bwyd yn cael ei ddarparu drwy gydol yr wythnos, ac rydym yn hapus i ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion dietegol – rhowch wybod wrth archebu.

 

 

Offer - Beth i Ddod

Bydd rhestr offer lawn yn cael ei hanfon atoch yn agosach at ddyddiad y cwrs ond dyma rhai awgrymiadau. Bydd offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau penodol yn cael ei ddarparu – does dim angen prynu unrhyw offer drud.

 

  • Dillad awyr agored addas ar gyfer tywydd amrywiol

  • Esgidiau cerdded cadarn

  • Dillad twym a chyfforddus

  • Cot gwrth-law

 

 

Nol