Faint oed sydd angen bod i wirfoddoli?

Gall unigolion dros 14 mlwydd oed wirfoddoli i'r Urdd ar draws Gymru. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn ôl eich oedran, a byddwn yn cynnig mwy o gyfrifoldebau wrth i'r unigolyn fynd yn hŷn.

Oes angen unrhyw gymwysterau neu phrofiad blaenorol i wirfoddoli?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad blaenorol er mwyn gwirfoddoli gydag Adran Chwaraeon yr Urdd. Mae cyfleoedd ar gael i unigolion gynorthwyo staff neu prentisiaid chwaraeon yr Urdd mewn clybiau lleol.

Er hyn, os oes gennych gymhwyster hyfforddi chwaraeon, bydd mwy o gyfleoedd a chyfrifoldebau ar gael i hyfforddi plant a phobl ifanc yn ein clybiau.

Mae hefyd modd ennill cymwysterau wrth wirfoddoli gyda ni, drwy wneud cais i ymuno llwybrau gwirfoddoli chwaraeon yr Urdd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. 

Faint o oriau gwirfoddol sydd angen i mi gwblhau er mwyn ennill cymhwysterau/hyfforddiant chwaraeon?

Mae'r Adran Chwaraeon yn cynnig tri llwybr gwrifoddoli, sef Llwybr Efydd, Arian ac Aur. O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon. 

Isafswm nifer o oriau gwirfoddol sy'n ofynnol ar gyfer bob llwybr er mwyn ennill cymwysterau/hyfforddiant chwaraeon yw:

  • Llwybr Efydd - 15 awr
  • Llwybr Arian - 30 awr
  • Llwybr Aur - 45 awr

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Pa adrannau arall sydd yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli o fewn yr Urdd?

  • Gwersylloedd haf (Llangrannog, Glan-llyn neu Caerdydd)
  • Gweithgareddau celfyddydol 
  • Aelwydydd/clybiau lleol
  • Eisteddfodau lleol
  • Eisteddfod Genedlaethol
  • Fforymau ieuenctid
NÔL