Sgwrs gyda Gethin
Pryd a pam wnes di ddechrau gwirfoddoli gyda’r Urdd?
"Neshi ddechrau gwirfoddoli efo’r Urdd oherwydd oeddwn i angen cwblhau fy oriau gwirfoddol er mwyn cael cymhwyster y BAC. Mi oedd yr adran Chwaraeon yr Urdd yn apelio ataf oherwydd fy diddordeb mawr mewn Chwaraeon ac oeddwn i eisiau gwirfoddoli mewn maes byswn yn mwynhau."
Beth wnes di yn ystod dy oriau gwirfoddol gyda’r Urdd?
"Yn ystod fy oriau gwirfoddol neshi weithio mewn amryw o glybiau yn cynorthwyo hyfforddwyr profiadol a dysgu lot o sgiliau hyfforddi oddi arnyn nhw. Mi oeddwn i yn helpu rhedeg y sesiwn, arwain ar ambell gem a weithiau bod 1 to 1 efo plant oedd angen fwy o gymorth."
Oeddet ti’n gwneud unrhywbeth gyda’r Urdd cyn gwirfoddoli/wrth i ti dyfu fyny?
"Neshi dechrau fy ngyrfa pêl droed yn 4 neu 5 oed efo’r Urdd yn mynychu clwb ar bora dydd Sadwrn ac yn cystadlu yn Eisteddfodau yr Urdd yn Ysgol gynradd"
Yw chwaraeon wastad wedi bod yn rhan fawr o dy fywyd?
"Mae Chwaraeon wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ers i mi fod yn ifanc. Dwi’n cefnogwr brwd o Manchester United yn pêl-droed ac yn dilyn Cymru yn y pêl-droed a’r rygbi. Dwi hefyd wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth fawr o Chwaraeon ers i mi fod yn ifanc a dal yn mwynhau cymdeithasu efo ffrindiau trwy Chwaraeon."
Pa fath o brofiad gesdi fel gwirfoddolwr?
"Fel gwirfoddolwr efo’r Urdd dwi’n teimlo geshi profiad positif iawn a di cael y cyfle i trio llawer o bethau gwahanol o fewn y maes."
Sut wnaeth gwirfoddoli gyda’r Urdd dy helpu o ran datblygu dy sgiliau a hyder personol?
"Dwi’n teimlo nath gwirfoddoli efo’r Urdd datblygu llwyth o sgiliau dwi’n defnyddio o dydd i ddydd yn fy ngwaith a naeth o helpu fi efo fy ngwaith ysgol. Mae fy hyder personol wedi cynyddu yn anferthol ers gwirfoddoli efo’r Urdd yn cael profiad o siarad o flaen cynulleidfa (plant) a siarad efo’r rhieni. Yn ogystal a hyn dwi'n gweithio mewn tîm efo pobl newydd sydd yn rhoi hyder i fi wneud hyn yn y dyfodol."
Oeddet ti’n teimlo bod y profiadau gwirfoddol yn fuddiol i ti a pham?
"Dwi’n teimlo bod y profiadau o gwirfoddoli wedi fod yn fuddiol iawn i mi, dwi’n defnyddio’r profiadau yn ddyddiol a mae wedi helpu fi i gael fy swydd presennol."