Gwirfoddoli - Gemau Stryd Urdd

Crynodeb: Cystadleuaeth gyntaf o'i fath yng Nghymru. Mewn partneriaeth gyda'r Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, i hybu chwaraeon sydd yn newydd i'r gemau Olympaidd fel BMX, Sglefrfyrddio, Pêl-fasged 3x3 a Breaking. Bydd Gemau Stryd yr Urdd hefyd yn hybu chwaraeon fel Scooter, WCMX a Phêl-fasged cadair olwyn 3x3. Lawr yn Bae Caerdydd bydd y parc sglefrio yn cael ei adeiladu o fewn y basn, i athletwyr gorau BMX, Scooter a Sglefrfyrddio perfformio. Bydd hefyd gweithdai Graffiti, DJ a sesiynau blasu ar y parc sglefrio i bobl gael dechrau dysgu'r sgiliau.

Lleoliad: Bae Caerdydd, Roald Dahl Plass, CF10 4PZ

Dyddiad: 18/06/2022 - 19/06/2022

Amserlen y penwythnos:

  • Dydd Sadwrn: Scooter, BMX, Pêl-fasged 3x3, Breakin'
  • Dydd Sul: Sglefrfyrddio, WCMX, Pêl-fasged 3x3, Pêl-fasged cadair olwyn 3x3, Dawnsio

Rôl a chyfrifoldebau ar y dydd:

  • Helpu rheoli ardal
  • Stiwardio
  • Helpu pobl ffeindio'r ardal cywir
  • Helpu gyda cofrestru cystadeluwyr
  • Helpu gyda'r pabell gwybodaeth

Pam gwirfoddoli?

  • Derbyn cit yr Urdd
  • Cinio bob dydd
  • Profiad o weithio yn y maes digwyddiadau
  • Cyfarfod pobl newydd
  • Bod ynghlwm gyda'r digwyddiad Gemau Stryd cyntaf Cymru

Cysylltwch â tomosbirkhead@urdd.org er mwyn gwirfoddoli!