Gwirfoddoli - Gwyl Gynradd yr Urdd

Crynodeb: Bydd ysgolion gynradd o bob rhanbarth o Gymru sydd wedi ennill lle o'i cystadlaethau rhanbarthol yn mynychu gwyl aml chwaraeon yn Aberystwyth. Bydd 6 gwahanol gystadleuaeth ar draws y penwythnos. Bydd cit yr Urdd ar werth a noddwyr ar y safle yn hyrwyddo ei sefydliadau.

Lleoliad: Caeau Blaendolau, Aberystwyth

Dyddiad: 13/05/2023 - 14/05/2023

Amserlen y penwythnos:

  • Dydd Sadwrn: Pel-droed 7 bob ochr cymysg a merched, Trawsgwlad
  • Dydd Sul: Pel-rwyd, Rygbi 7 bob ochr cymysg (contact), Rygbi Tag Merched

Bydd angen bod ar y safle o 9yb hyd at 5yp.

Rolau a chyfrifoldebau ar y dydd:

  • Helpu i reoli cae
  • Sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o ble mae nhw fod
  • Trefnu'r cardiau sgor rhwng y caeau ac uwch rheolwr caeau
  • Brandio yn y bore a thynnu lawr yn y nos
  • Helpu ar y bwrdd cofrestru
  • Helpu fel marsial traws gwlad
  • Gwerthu tocynnau mynediad

Pam gwirfoddoli?

  • Derbyn cit yr Urdd
  • Cinio bob dydd
  • Profiad o weithio mewn digwyddiad
  • Cyfarfod pobl newydd
  • Adran Prentisiaethau ar y safle i holi cwestiynau
  • Bod yn rhan o dim yr Urdd

Cysylltwch a tomosbirkhead@urdd.org i wirfoddoli!