Mae'r Adran Chwaraeon yn cynnig tri llwybr gwrifoddoli, sef Llwybr Efydd, Arian ac Aur. O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon, derbyn cit yr Urdd, y cyfle i ymuno â fforymau chwaraeon yr Urdd a derbyn mentora gan staff a phrentisiaid yr Urdd. Wrth symud o un llwybr i'r nesaf, bydd mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd ar gael i chi fel gwirfoddolwr.
Sut i ymuno â'r llwybrau:
Ar ôl dechrau gwirfoddoli, bydd cyfle i chi wneud cais i ymuno â'r llwybrau gwirfoddoli.
O fewn bob llwybr mae cyfleoedd i ennill cymwysterau chwaraeon, derbyn cit yr Urdd, y cyfle i ymuno â fforymau chwaraeon yr Urdd a derbyn mentora gan staff a phrentisiaid yr Urdd. Wrth symud o un llwybr i'r nesaf, bydd mwy o gyfrifoldebau a chyfleoedd ar gael i chi fel gwirfoddolwr.
Llwybr Efydd
Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr efydd:
- 15 awr
Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr efydd?
- Hyfforddiant Gallaf Arwain
- Hyfforddiant DIT Lefel 1
- Cwrs Llythrennedd Corfforol
- Crys-t a siwmper gwirfoddoli yr Urdd
- Derbyn mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
Rôl gwirfoddolwr efydd
- Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
Llwybr Arian
Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr arian:
- 30 awr
Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr arian?
- Hyfforddiant Gallaf Arwain
- Hyfforddiant DIT Lefel 1 (opsiwn i fynychu hyfforddiant pellach)
- Hyfforddiant Llythrennedd Corfforol
- Hyfforddiant CSLA2
- Hyfforddiant cwrs arwain NGB
- Crys-t a siwmper gwirfoddoli yr Urdd
- Mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
Rôl gwirfoddolwr arian
- Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
- Cynllunio ac arwain gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon
- Parodrwydd i roi cymorth i wirfoddolwyr efydd os oes angen
Llwybr Aur
Isafswm oriau gwirfoddoli llwybr aur:
- 45 awr
Beth sy'n cael ei gynnig ar y llwybr aur?
- Hyfforddiant Gallaf Arwain
- Hyfforddiant DIT lefel 1 (opsiwn i fynychu hyfforddiant pellach)
- Hyfforddiant Llythrennedd Corfforol
- Hyfforddiant CSLA2
- Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth
- Cwrs Cymorth Cyntaf
- Crys-t a siwmper gwirfoddoli yr Urdd
- Derbyn mentora gan staff/prentisiaid yr Urdd wrth hyfforddi
- Cyfleoedd i wirfoddoli yn nhwrnameintiau chwaraeon yr Urdd
- Hyfforddi yn annibynnol
Rôl gwirfoddolwr aur
- Cynorthwyo hyfforddwyr yr Urdd mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon
- Cynllunio ac arwain gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon
- Parodrwydd i roi cymorth i wirfoddolwyr efydd ac arian os oes angen
- Hyfforddi clybiau chwaraeon yn annibynnol