Gwirfoddoli - Pêl-rwyd Cenedlaethol yr Urdd

Crynodeb: Cystadleuaeth Cenedlaethol pel-rwyd ysgolion uwchradd Cymru. Bydd dros 100 o dimau merched blwyddyn 7 i 13 o ysgolion ar draws Cymru yn cystadlu ar draws 3 lleoliad yng Nghaerdydd. Bydd cit Urdd ar werth a noddwyr ar y safle yn hyrwyddo ei sefydliadau.

Lleoliad: Caerdydd

Dyddiad: i'w gadarnhau

Bydd angen bod ar y safle o 9yb hyd at 5yp.

Rolau a chyfrifoldebau ar y dydd:

  • Helpu i reoli cwrt
  • Sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o ble mae nhw fod
  • Trefnu'r cardiau sgor rhwng y caeau ac uwch rheolwr caeau
  • Brandio yn y bore a thynnu lawr yn y nos
  • Helpu ar y bwrdd cofrestru

Pam gwirfoddoli?

  • Derbyn cit yr Urdd
  • Cinio bob dydd
  • Profiad o weithio mewn digwyddiad
  • Cyfarfod pobl newydd
  • Adran Prentisiaethau ar y safle i holi cwestiynau
  • Bod yn rhan o dim yr Urdd

Cysylltwch a tomosbirkhead@urdd.org i wirfoddoli!