Bwrdd Cenedlaethol i aelodau yr Urdd ydi Bwrdd Syr IfanC. Mae'r bwrdd yn cael ei fwydo gan fforymau rhanbarthol ledled Cymru. Dyma gyfle gwych i drafod materion sy'n poeni pobol ifanc yn eu hardaloedd ac yn genedlaethol, ynghyd a chyfrannu tuag at weledigaeth yr Urdd.

Ethan Williams ydi Cadeirydd Bwrdd Syr IfanC a Llywydd yr Urdd 2018/2020

Pwy sydd ar Fwrdd Syr IfanC?

Mae yna fforwm ieuenctid ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Mae cynrychiolaeth o bob fforwm ar  Bwrdd Syr Ifanc. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn, ac mae hyn yn cynnwys dau gwrs preswyl yng ngwersylloedd yr Urdd ac un cynhadledd cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Rôl y Bwrdd ydi:

  • Trafod beth sy’n bwysig i bobl ifanc a rhoi llwyfan i'w barn.
  • Cael ymateb pobl ifanc ar waith yr Urdd, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
  • Rhoi cyfle i aelodau gynnig syniadau ar sut i adeiladu ar waith yr Urdd.
  • Cynnig cyfle i bobl ifanc o bob rhan o Gymru ddod at eu gilydd i drafod, ond i wneud ffrindiau a chymdeithasu hefyd.
  • Darparu llais i bobol ifanc ynglyn a materion sy'n ymwneud â Chymru a'r Gymraeg.

I gysylltu â'r Bwrdd e-bostiwch: ieuenctid@urdd.org

Os hoffech fod yn rhan o Fforwm Ieuenctid eich rhanbarth cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol. I ddewis eich ardal cliciwch yma

Beth mae'r Bwrdd wedi ei gyflawni hyd yn hyn?

Hwngari; Nol yn 2014, cafodd yr Urdd gynnig tŷ yn Hwngari. Roedd y mudiad mewn cyfyng gyngor llwyr i dderbyn a'i peidio. Ar ol i holl fyrddau yr Urdd drafod, penderfynwyd mai gan y Bwrdd fyddai'r gair olaf, a derbyn oedd y penderfyniad hwnnw. Bellach, diolch i Bwrdd Syr IfanC, mae'r tŷ wedi ei ail wneud i safon uchel, ac mae'r Urdd yn gallu cynnig teithiau arbennig i Hwngari. Os oes gen ti ddiddordeb mewn ceisio am le ar daith 2019, yna clicia ar y linc yma Tŷ Kisbodak Ház

Llysgenhadon; Yn ystod un cyfarfod cafwyd awgrym y byddai'n syniad da creu rôl o 'Lysgenad yr Urdd' ymhob ysgol. Mae hi wedi bod yn brosiect anferth i'r Urdd, ond bellach mae’r syniad ar waith ymhob ysgol uwchradd yng Nghymru.  Mae gwaith y Llysgenhadon yn amrywio o fewn pob rhanbarth, ond mae’r gwaith yn cynnwys y canlynol;

  • Hyrwyddo  a siarad  am waith yr Urdd mewn gwasanaethau
  • Hyrwyddo a derbyn enwau ar gyfer teithiau
  • Gwirfoddoli mewn clybiau, gweithgareddau’r Urdd. e.e Jambori
  • Arwain, Cynorthwyo a Stiwardio yn Eisteddfodau
  • Hyrwyddo gwaith mudiadau eraill, e.e Eisteddfod Genedlaethol, Menter Iaith

Stonewall; Mae'r Urdd bellach wedi creu partneriaeth gyda Stonewall yn dilyn cais gan Bwrdd Syr IfanC.

Eisteddfod yr Urdd; Un o lwyddiannau mawr y Bwrdd ydi penderfynu cael, a threfnu gig Nos Sadwrn olaf Eisteddfod yr Urdd, sydd wedi bod yn lwyddiant ysgubol dros y dair mlynedd diwethaf.  Eu dewis nhw hefyd oedd cael bar ar y maes ar gyfer y digwyddiad - penderfyniad sydd wedi denu cynulleidfa hollol newydd o bobol ifanc i'r Eisteddfod.

Patagonia; Am flynyddoedd, roedd ceisiadau taith Patagonia yn cael eu penderfynu yn seiliedig ar ffurflen gais. Cododd y Bwrdd y ffaith fod hyn yn cyfyngu'r ceisiadau i unigolion oedd yn academaidd yn unig. Felly, ers hynny mae newid trefn wedi bod. Mae proses gyfweliad a chyfle i wneud gwaith tim mewn lle erbyn yn, er mwyn i'r Urdd gael cyfarfod y bobol ifanc cyn gwneud eu dewis terfynol. 

Cynhadledd Bwrdd Syr IfanC; Mae Bwrdd Syr IfanC yn trefnu cynhadledd yn flynyddol, sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ac yn denu tua 80 o bobol ifanc yn flynyddol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae prosiect ysgolion ail-iaith yr Urdd - Cymraeg Bob Dydd, wedi bod yn trefnu cynhadledd debyg. Yn dilyn trafodaeth yn un o'r cyfarfodydd bwrdd, penderfynwyd uno'r ddau gynhadledd er mwyn rhoi cyfle i bawb gymdeithasu a dysgu gan ei gilydd.