Hanes

Yn 2013, bu dyn o’r enw Michael Makin mewn cysylltiad gyda’r Urdd – roedd yn chwilio am sefydliad ieuenctid fyddai â diddordeb derbyn adeilad yn Hwngari yn rhodd, ar yr amod y byddai’n cael ei ddefnyddio fel adnodd i bobl ifanc gael profiad o’r wlad ryfeddol.

Does gan Michael Makin ddim cysylltiad penodol â Chymru, ond fe dreuliodd amser yn ardal Llangollen pan yn iau, gan gael ei gyfareddu gan harddwch yr ardal, y diwylliant a'r iaith Gymraeg.

Derbyniodd yr Urdd ei dŷ fel rhodd, ac ar ôl cyfnod yn adnewyddu ac addasu'r adeilad ar gyfer grwpiau o bobl ifanc, mae Tŷ Kisbodak Ház nawr yn croesawu grwpiau o Gymru.

Lleoliad

Mae'r tŷ wedi ei leoli yng ngogledd orllewin Hwngari mewn pentref bach o'r enw Kisbodak, ger Mosonmagyarovar a'r afon Donwy.

Mae'r prifddinasoedd Vienna a Bratislava o fewn awr i'r tŷ, a Budapest tua dwy awr i ffwrdd.

Cyfleusterau

Mae’r tŷ yn dal hyd at 20 o bobl ac mae lolfa a chegin sy’n cynnwys yr holl adnoddau angenrheidiol – gan gynnwys barbeciw!

Galeri