Taith #FelMerch yr Urdd i India – Chwefror 2026
Yn dilyn llwyddiant taith #FelMerch yr Urdd i Kolkata, India yn 2025, rydym yn falch iawn o allu cynnig y cyfle unigryw hwn unwaith eto. Ym mis Chwefror 2026, bydd 10 merch rhwng 18 a 25 oed, sy’n aelodau’r Urdd, yn cael cyfle arbennig i deithio i Kolkata am bythefnos.
Bydd y daith yn cael ei threfnu mewn partneriaeth gyda Her Future Coalition – elusen sy’n gweithio yn India i wneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau menywod a merched sydd wedi bod, neu sydd mewn perygl o gael eu tynnu i mewn i gaethfasnach rywiol. Mae’r elusen yn ceisio torri’r cylch tlodi drwy ddarparu addysg, hyfforddiant, a gwasanaethau cymorth i helpu merched i adeiladu dyfodol mwy diogel a disglair.
Yn ystod y daith, bydd y merched yn cael cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn India. Bydd yr amserlen yn llawn profiadau bythgofiadwy.
Bydd Her Future Coalition yn gweithio law yn llaw gyda’r Urdd i drefnu’r daith a’r gweithgareddau, gan sicrhau bod y merched yn gweithio mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i wneud gwir wahaniaeth, datblygu dealltwriaeth ddyfnach o faterion byd-eang, ac ennill profiad personol a fydd yn eu hysbrydoli am oes.
Cynhelir y daith hon trwy gyfrwng y Gymraeg.






Os hoffech ddarllen dyddiadur Martha Owen – un o’r merched a fynychodd y daith yn 2025 – cliciwch yma
Dyddiad y Daith
16 Chwefror – 1 Mawrth 2026
Bydd y daith hon yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r cais unwaith eto eleni.
Ni fydd unrhyw gost uniongyrchol i’r cyfranogwyr am deithio, llety, bwyd nac yswiriant – gan wneud hwn yn gyfle hollol unigryw a gwerthfawr.
Penwythnos Preswyl – Paratoi ar gyfer y Daith
Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus fynychu penwythnos preswyl yng Ngwersyll Caerdydd ar 28–29 Tachwedd 2025.
Bydd hwn yn gyfle:
- I ddod i adnabod aelodau eraill o’r grŵp
- I drafod logisteg ac unrhyw bryderon
- I gymryd rhan mewn gweithdai paratoi ymarferol a diwylliannol
Cefnogi Her Future Coalition
Fel rhan o bartneriaeth yr Urdd gyda Her Future Coalition, bydd disgwyl i’r merched sy’n cymryd rhan yn y daith gynnal ymgyrch codi arian cyn teithio.
- Bydd yr arian a godir yn cael ei gyflwyno’n uniongyrchol i’r elusen yn ystod y daith – gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r cymunedau lle bydd y grŵp yn gweithio.
- Yn 2025, llwyddodd y criw i godi dros £6,000, gan helpu i ddarparu adnoddau hanfodol, offer dysgu ac adnoddau cymorth i ferched a phlant mewn sefyllfaoedd bregus.
- Bydd cefnogaeth a syniadau ymarferol ar gael gan yr Urdd i helpu’r grŵp i godi arian mewn ffordd greadigol, hwyl ac ystyrlon.
Gofynion Teithio – Cyn i’r Urdd archebu’ch hediadau mae’n rhaid i chi gytuno i’r canlynol:
-
Mae angen pasbort dilys (gyda 6 mis o ddilysrwydd ar ôl dyddiad teithio).
-
Cytundeb i gael y brechiadau angenrheidiol cyn teithio.
-
Mae’n ofynnol i chi ddarparu cadarnhad eich bod yn gymwys i gael fisa er mwyn mynd i mewn i’r wlad.
-
Ffurflen ymrwymiad wedi’i llofnodi yn cytuno i delerau ac amodau’r Urdd.
- Does dim rhaid i chi fod yn 18 oed pan fyddwch yn gwneud y cais, ond mae’n rhaid i chi fod wedi troi’n 18 erbyn diwrnod cyntaf y daith.
I wneud cais, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais sy’n gofyn am:
- Wybodaeth amdanoch chi.
- Eich profiadau gwirfoddoli neu arweinyddiaeth.
- A pham eich bod chi’n teimlo eich bod chi’n addas ar gyfer y daith arbennig hon.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Nos Sul 14 Medi 2025 – 23:59
Rydym yn rhagweld y bydd nifer fawr o geisiadau yn cael eu cyflwyno, a byddwn yn cynnal cyfweliadau ar gyfer pawb ar y rhestr fer ddydd Mawrth, 23 Medi – felly cadwch y dyddiad yn rhydd. Byddwn yn eich hysbysu dros e-bost os ydych yn llwyddiannus.
Cliciwch yma i wneud cais