Hanes

Ar y 15fed o Fedi 1963, lladdwyd pedwar plentyn mewn ymosodiad hiliol ar Eglwys y Bedyddwyr, 16th St Birmingham, Alabama. Aelodau o’r Klu Klux Klan oedd yn gyfrifol am blannu’r ffrwydradau. Bu ymateb chwyrn ar draws y byd a phan gyrhaeddodd y newyddion John Petts, yr artist gwydr o Gymru, fe benderfynodd ddylunio ffenestr wydr yn portreadu Iesu Grist du fel rhodd o gefnogaeth i'r eglwys a'i phobl.

Gosodwyd y ffenestr  yn yr eglwys yn 1964, a hyd heddiw caiff ei hadnabod fel y ‘Wales Window gan drigolion yr eglwys.

Yr Urdd ac Alabama

Yn 2019, dros hanner canrif wedi'r ymosodiad erchyll, mae’r eglwys yn ffynnu ac mae'r Urdd yn estyn llaw o gyfeillgarwch i ailgydio'n y berthynas hanesyddol hon rhwng Cymru ac Alabama. Ym mis Medi 2019 aeth Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, i ymweld â’r eglwys a phobl ifanc Birmingham, Alabama.

Galeri Taith 2019

Gwyliwch gyfweliad Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd ar S4C ym mis Hydref 2019

Côr Gospel Rhithiol

Roedd trefniadau taith Côr Gospel Prifysgol Alabama ym Mirmingham (UAB, University of Alabama at Birmingham) i ymweld â Chymru ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020 yn cael eu cwblhau pan fu’n rhaid gohirio’r cyfan wrth i Covid-19 ledaenu ar draws y byd.

Yn awyddus i beidio â gadael i’r sefyllfa atal y cyfle i ddod â’r bobl ifanc at ei gilydd, ffurfiwyd côr gospel rhithiol ar cyd rhwng myfyrwyr UAB ac aelodau o rai o gorau aelwydydd yr Urdd o Hafodwenog, Penllys, JMJ, Pantycelyn a’r Waun Ddyfal.

Ym mis Tachwedd 2020, daethant at ei gilydd am y tro cyntaf erioed i ganu addasiad o ‘Every Praise’ gan Hezekiah Walker, sef ‘Canwn Glod.’ Bu i’r seren Mared Williams a Chyfarwyddwr Côr Gospel UAB, Reginald James Jackson ymuno gyda’r criw, gyda diolch i’r Cyfarwyddwr Cerdd Richard Vaughan oedd yn gyfrifol am ddod â’r lleisiau at ei gilydd.  

Gwrandewch a gwyliwch yma: