Hanes
Ers 2015, mae'r siaradwyr gorau ymhlith cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd yn ennill y cyfle i ymweld â Brwsel, ar daith wedi'i threfnu gan Tom Jones, cynrychiolydd Cymru a'r DU ar Gyngor Economaidd a Chymdeithasol ar ran Cymdeithas Lywodraeth Leol.
Y daith
Yn flynyddol mae'r daith yn cynnwys ymweliad â Senedd Ewrop, a chyfarfod Cymry Cymraeg sydd yn gweithio yn y Swyddfa Gymreig ym Mrwsel i ddarganfod a dysgu am eu gwaith a’u rôl o fewn gwleidyddiaeth Ewropeaidd.
Galeri taith 2019
Rhoddir y wobr i siaradwyr gorau o blith y tîm ysgolion a thîm aelwydydd cystadlaethau Siarad Cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd ers 2015.