Lansio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yng Nghanolfan Nobel

Ar y 18fed o Fai 2022, sef diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd, lansiwyd y neges o Ganolfan Nobel yn Oslo, Norwy yng nghwmni y Prif Wenidog, Mark Drakeford.

Yno i gyflwyno'r neges oedd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd a'r criw o bobl ifanc a oedd yn gyfrifol am lunio'r neges eleni, sef myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Blas ar Ddiwylliant a Hanes Norwy

Diwrnod rhyngwladol Norwy yw'r 17eg o Fai, ac felly ar y diwrnod hwnnw cafodd yr 16 o fyfyrywr o Brifysgol Aberystwyth ddiwrnod heulog i ddilyn y gorymdeithiau a cael blas ar ddiwylliant a hanes Norwy.

Er mwyn deall mwy am hanes y Wobr Heddwch Nobel a chyn-ennillwyr, cafwyd taith o amgylch y ganolfan cyn y digwyddiad ar y 18fed o Fai.

 

Galeri'r daith