Beth yw Dubai 7s?

Ers 1999, mae Dubai yn cynnal twrnament blynyddol Rygbi 7-bob-ochr i’r 12 tîm rhyngwladol gorau yn y byd yn stadiwm ‘The Sevens Stadium’. Dyma ŵyl chwaraeon ac adloniant mwyaf y Dwyrain Canol.

Mae’r twrnament rygbi 7-bob-ochr yma yn un o ddigwyddiadau rygbi 7-bob-ochr mwyaf y byd, gyda thimau o bob cwr o’r byd yn cystadlu - rhai yn broffesiynol, rhai ddim. Mae 15 cynghrair o chwarae, gyda’r gemau yn digwydd ar wyth cae gwahanol yn ‘The Sevens Stadium’. Mae’r chwarae yn digwydd dros 3 diwrnod, heb anghofio am yr adloniant a’r mwynhau sy’n digwydd oddi ar y cae.

Mae’r twrnament yma, yr ‘Emirates Airline Dubai Rugby 7’s’, yn gallu denu torfeydd o mwy na 100,000 dros dridiau'r ŵyl – digwyddiad mwyaf y stadiwm ‘ The Sevens Stadiwm’

Tîm Rygbi 7-bob-ochr yr Urdd

Aeth tîm merched rygbi 7-bob-ochr yr Urdd draw i Dubai ar gyfer y twrnament a chael profiad bythgofiadwy.

Chwaraeodd tîm yr Urdd yn y gynghrair ‘International Womens open’. Roedd llawer o’r timau eraill yn cynnwys cyn-chwaraewyr timau rhyngwladol. Cyrhaeddodd tîm yr urdd y ‘quater final’! Roedd hi’n gêm agos iawn.

Diolchwn i gynllun Taith am ariannu'r cyfleodd i ymgysylltu gyda chymunedau ac ysgolion Dubai fel rhan o’r ymweliad. 

Yn ogystal â’r chwarae, cynhaliodd criw’r Urdd sesiynau chwaraeon i blant a disgyblion yn Dubai gan gynnwys sesiwn hyfforddi i dîm rygbi dan 12 Dubai Hurricanes. Hefyd, cynhaliwyd sesiwn hyfforddi a gweithgareddau Cymraeg i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 mewn ysgol, i gyflwyno iaith a diwylliant Cymru iddynt, a rhoi cyfle i’r disgyblion gael clywed a dysgu ychydig o’r Gymraeg.  

Cafodd criw’r Urdd gyfle i ymweld â chanol y ddinas, a chael blas o’r diwylliant. Roedd hyn yn cynnwys profiadau anhygoel, fel mynd i’r anialwch a blasu bwydydd lleol.

Roedd y daith yn llawn profiadau unigryw ac anhygoel, yn gyfle i rwydweithio yn rhyngwladol, hyrwyddo’r iaith Gymraeg, a chael cyfle i chwarae rygbi ar blatfform byd-eang – roedd ambell berson Cymraeg yno yn gwylio’r twrnament ac wrth eu boddau bod tîm o Gymru yno.