Chwarae yn Gymraeg

Mae 'Chwarae yn Gymraeg' yn fenter arloesol, gafaelgar llwyddiannus a grëwyd gan yr Urdd i ganiatáu i blant ddysgu’r iaith mewn amgylchedd hwyliog y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae’n ffordd newydd o gyflwyno’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i blant: trwy chwarae a gweithgareddau amrywiol.

Trwy anogaeth, chwarae a chefnogaeth, mae'r iaith yn dod yn hygyrch ac yn dod â boddhad ac mae rhwystrau'n cael eu torri!

Mae'n rhaglen unigryw ac yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion ail iaith ledled Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda â'r Cwricwlwm Addysgol Cymraeg a'r Strategaeth Iaith Gymraeg o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae'r Urdd erbyn hyn yn cynnal sesiynau ‘Chwarae yn Gymraeg’ mewn ysgolion yn rhyngwladol, gan fynd â Chymru i'r byd!

Sinsheim, Yr Almaen

Teithiodd criw o’r Urdd, cymysgedd o staff ac ymddiriedolwyr chwaraeon a chelfyddydol, i Sinsheim i rannu ein hiaith a diwylliant fel rhan o brosiect ‘Chwarae yn Gymraeg’.

Dros ddeuddydd mewn ysgol uwchradd yn y dref fechan hon yn Ne Orllewin yr Almaen, roedd cyfle i rannu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig gyda phlant ac athrawon Sinsheim, ond hefyd i ddysgu mwy am draddodiadau Almaenig.

Cynhaliwyd sesiynau chwaraeon amrywiol o gemau chwaraeon cyffrous, addysgol ac atyniadol oedd yn datblygu sgiliau’r disgyblion ond oedd hefyd yn cyflwyno'r Gymraeg mewn amgylchedd hwylus. Drwy chwarae, roedd y disgyblion Almaeneg yn dysgu geirfa Gymraeg sylfaenol.

Cyflwynwyd sesiwn ddiwylliannol hefyd, i roi cefndir o’n hiaith, gwlad a diwylliant i’r disgyblion.

Pam Sinsheim?

Mae’r dref hon yn gartref i stadiwm Rhein-Neckar-Arena, neu enw arall i’r stadiwm, PreZero Arena. Yn ogystal â chyflwyno’r prosiect ‘Chwarae yn Gymraeg’, roedd criw’r Urdd wedi mynd yno i gefnogi tîm pêl droed merched Cymru yn eu gêm Nations League yn erbyn Yr Almaen!

Aeth y criw o’r Urdd â disgyblion yr ysgol i ymweld â thîm pêl droed merched Cymru yn hyfforddi, a chael cyfle i gyfarfod y chwaraewyr hefyd! Wrth wylio’r gêm y diwrnod canlynol, penderfynodd sawl un o’r plant gefnogi Cymru ar ôl mwynhau dysgu cymaint am ein hiaith a’n diwylliant!

Yn dilyn llwyddiant sawl taith ‘Chwarae yn Gymraeg’ erbyn hyn, hoffai'r Urdd gynnal llawer mwy o’r sesiynau gan ddatblygu perthnasau rhyngwladol, gyda'r gobaith o deithio yno eto yn fuan