Ar ddechrau’r flwyddyn newydd, aeth criw adran Eisteddfod yr Urdd ar daith werthfawr i gyfarfod gyda threfnwyr gŵyl fawr Primavera Sounds yn Barcelona, Catalonia. Roedd hyn yn rhan o’r ymdrech i barhau i gryfhau’r bartneriaeth rhwng y ddwy wald, a chael cyfle i ddysgu am ŵyl arall sy’n cael ei chynnal mewn iaith leiafrifol.

Bwriad y daith hefyd oedd rhannu arfer dda  ar sut i  gynnal gŵyl, creu ac adeiladu cysylltiadau rhyngwladol i’r Eisteddfod, a chasglu syniadau am agweddau newydd a chyfoes mewn gŵyl o bob math.

Cafodd criw’r Urdd flas ar sut i drefnu gŵyl o bob maint – un anferth fel Primavera Sounds, ac un llawer llai, sef Gŵyl Campa de Lingua. Roedd y criw wedi’i hysbrydoli gan fawredd a ffordd criw Primavera o weithio. Mae Gŵyl Campa de Lingua yn un fach iawn, ac yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ifanc angerddol. Roedd criw’r Urdd - wedi mwynhau dysgu gan griw Primavera, ond hefyd rhannu arferion gyda phobl ifanc Campa de Lingua. Roedd yr adlewyrchu yn gyfle i bob gŵyl hel syniadau i ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.

Bydd gŵyl Triban yn elwa o’r daith yma hefyd, gyda’r holl syniadau newydd yn cael eu defnyddio i gefnogi cerddorion ifanc Cymru.

Pwyslais y daith oedd trefniadaeth gŵyl, ond hefyd roedd cyfle i gyfarfod gyda Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol Catalonia. O hynny, daeth sgwrs am ehangu ar eu perthynas nhw gyda ein  Senedd Ieuenctid ni yng Nghymru. Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i weithio ar y cyd a pharhau gyda’r bartneriaeth drwy gynnal digwyddiadau a darparu anogaeth i bobl ifanc yn y ddwy wlad.

Yng Nghatalonia, roedd cyfle i glywed am ymdrechion iaith leiafrifol arall, a dysgu am ei hanes. Dywedodd criw’r Urdd bod teimlad cartrefol wrth ddysgu am rywbeth oedd yn gymharol debyg i Gymru a chymharu sefyllfa’r ddwy iaith - yr hyn sy’n gwneud ni’n wahanol ond hefyd sy’n debyg ac yn ein huno ni. Ar ddychwelyd gartref, roedd y criw yn teimlo’n falch iawn ac yn ddiolchgar am y profiad.  

Byddai’n wych gwahodd sawl un o griw Catalonia draw i ymweld â’r Eisteddfod! Gall artistiaid a sefydliadau Catalan ddod draw, a threfnu drwy Catalan Arts bod y Cwmni Theatr ym medru ymweld â’r Eisteddfod yn 2025.

Nawr, mae gan yr Urdd gysylltiadau newydd ac wedi llwyddo i gryfhau’r ymdeimlad o dîm wrth drefnu gŵyl o’r fath. Mae’r criw yn barod i roi’r holl syniadau creadigol newydd ar waith!!

Dychwelodd y criw yn ôl i Gymru yn teimlo balchder mawr dros yr hyn sydd wedi ei gyflawni; yr Eisteddfod, ein hiaith a’n mudiad.