Urdd a Chwpan y Byd Pêl-droed 2022

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac FAW, daeth yr Urdd yn rhan o Dîm Cymru 2022 i fynd â Chymru i'r byd a chefnogi ein tîm pêl-droed cenedlaethol yng Nghwpan y Byd.

Hefyd mewn partneriaeth gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, teithiodd Côr yr Urdd i Qatar gan berfformio mewn sawl digwyddiad i gefnogi tîm Cymru.

 

Llysgenhadon Celfyddydol a Chwaraeon yr Urdd

Rhwng yr 13eg a'r 21ain o Dachwedd bu tîm o ddeg o aelodau staff a llysgenhadon ifanc yr Urdd yn cynnal  sesiynau mewn ysgolion yn Doha, Qatar a Dubai. Trwy’r sesiynau, cafodd Cymru, ein hiaith, ein diwylliant a’n gwlad eu cyflwyno i gynulleidfa newydd. Roedd y sesiynau yn cynnig cyfle i blant ddysgu a chyd-chwarae, gan gynnig cyfleoedd cyfartal i bob plentyn.

Cynhaliwyd diwrnod rhyngwladol mewn un o'r ysgolion tra oedd staff a llysgenhadon yr Urdd yno. Dywedodd un llysgenad:

"Roedd bod yno ar gyfer diwrnod rhyngwladol yr ysgol yn brofiad arbennig, i ddysgu a gweld gwahaniaethau rhwng ein diwylliant ni yma yng Nghymru a diwylliannau eraill ar draws y byd".

Galeri Taith y Llysgenhadon

 

Côr yr Urdd yn Qatar

Prosiect arall fel rhan o ddathliadau Cymru yng Nghwpan y Byd oedd taith Côr Dyffryn Clwyd i Qatar.

Diolch i'r bartneriaeth gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, cafodd Côr yr Urdd gyfle arbennig i berfformio mewn sawl digwyddiad cyn y gemau yn Doha, gan gynnwys dau gyd-berfformiad o 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan i gefnogwyr Cymru.

Taith Côr yr Urdd i Qatar