Taith yr Urdd i Connemara Iwerddon - Awst 2025
Yn dilyn llwyddiant teithiau dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Urdd unwaith eto yn cynnig cyfle i aelodau yr Urdd i deithio i Connemara, Iwerddon i gyd-weithio gyda’r elusen TG Lurgan i gael addysgu criw newydd o bobl ifanc o Gymru am yr iaith Wyddeleg, diwylliant a'r broses o greu cerddoriaeth.
Bwriad TG Lurgan yw hyrwyddo dysgu Gwyddeleg drwy ganeuon cyfoes gyda’i sianel YouTube yn denu miliynau o wylwyr ac yn arweinwyr mewn hyrwyddo iaith leiafrifol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y daith yn gyfle i aelodau'r Urdd greu cynhyrchiad yn y Gymraeg a Gwyddeleg o gan boblogaidd, recordio sain mewn stiwdio, creu fideo cerddoriaeth, yn ogystal â chloi'r wythnos gyda cyngerdd i arddangos eu gwaith i bobl o'r pentref leol.
Bydd y cwrs yn cael ei arwain gan arbenigwyr fydd yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael wythnos llawn hwyl, gan roi cyfle arbennig i chi feithrin a datblygu sgiliau newydd.
Dyddiad y daith: Dydd Mawrth 19 Awst - Dydd Sadwrn 23 Awst 2025
Lleoliad: Connemara, Iwerddon
Bydd y daith yn cychwyn o Wersyll Glan-llyn Y Bala, gan deithio i borthladd Caergybi ar fws a fferi yna draw i Connemara.
**Bydd yr Urdd yn hapus i gyfrannu tuag at gostau unigolion i gyrraedd Gwersyll Glan-llyn **
Bydd y prosiect yn cael ei ariannu'n llawn gan Urdd Gobaith Cymru (llety / teithio a bwyd). Ond rydym yn gofyn am daliad o £30 i sicrhau eich lle.
Oedran: Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus angen bod rhwng 15 a 20 oed ar dyddiau y daith.
Bydd aelodau Staff yr Urdd yn teithio gyda chi ac ar gael i'ch cynorthwyo drwy gydol y daith.
Bydd disgwyl i unigolion rannu ystafelloedd gyda phobl ifanc eraill ar y daith - bydd dim modd dewis ystafelloedd ar sail ffrindiau.
Profiad: Does dim rhaid cael profiad cerddorol, ond mae’n bwysig eich bod yn awyddus i ddysgu ac yn hyderus i ganu oflaen cynulleidfa, gan bosib bydd gofyn i chi ganu'n unigol.
Byddwch yn cael eich cynnwys mewn cynhyrchiad cerddorol, bydd yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd yn ogystal â phlatfform adnabyddus Youtube TG Lurgan.
Dyddiad cau: 23:59 15 Mehefin 2025
Gwnewch gais yma