Taith Gerddorol yr Urdd i Gonnemara, Iwerddon – Awst 2026

 Cyfle unigryw i fod yn rhan o brosiect cerddorol eiconig gyda TG Lurgan!

Ar ôl llwyddiant y blynyddoedd diwethaf, mae’r Urdd unwaith eto yn falch i gynnig profiad cerddorol arbennig i bobl ifanc Cymru: wythnos yn Gonnemara yn cydweithio â TG Lurgan, un o brosiectau cerddoriaeth ieuenctid mwyaf poblogaidd Ewrop.

Mae TG Lurgan yn adnabyddus am greu fersiynau Gwyddeleg o ganeuon cyfoes ac am hyrwyddo’r iaith drwy eu sianel YouTube sy’n denu miliynau.

Beth fydd yn digwydd?

Bydd aelodau’r Urdd yn cael cyfle i:

  • Creu fersiwn Gymraeg + Gwyddeleg o gân boblogaidd
  • Recordio mewn stiwdio broffesiynol
  • Ffilmio fideo cerddoriaeth
  • Perfformio mewn cyngerdd i’r gymuned leol
  • Dysgu am ddiwylliant ac iaith Wyddeleg
  • Cydweithio yn y broses greadigol
  • Cwrdd â ffrindiau newydd o Gymru ac Iwerddon

Mae’r cwrs yn cael ei arwain gan dîm profiadol sy’n sicrhau wythnos o hwyl, hyder a sgiliau newydd.

Manylion Allweddol

Dyddiadau: Dydd Mawrth 18 – Dydd Sadwrn 22 Awst 2026

Lleoliad: Connemara, Iwerddon

 Teithio - O’r De:

  • Bws o Gaerdydd am 13:00, Dydd Llun 17 Awst
  • Stop yn: Caerfyrddin → Aberystwyth
  • Aros dros nos yng Nghwersyll Glan-Llyn
  • Swper (17 Awst) a brecwast (18 Awst) wedi’u cynnwys

Dydd Mawrth 18 Awst:

  • Bws yn gadael Gwersyll Glan-llyn am 10:00
  • Stop yn One-Stone Bangor  
  • Ymlaen i Borthladd Caergybi → fferi i Iwerddon
  • Teithio ymlaen i Gonnemara

Ffordd Nôl

  • Bydd llety ar gael i griw y de yng Ngwersyll Glan-llyn ar nos Sadwrn 22 Awst, gan na fydd y grŵp yn cyrraedd y gwersyll tan tua 22:00.
  • Bydd pawb yn cael cyfle i orffwys dros nos cyn teithio’n ôl.
  • Dydd Sul 23 Awst, bydd y bws yn teithio nôl i’r de yn gynnar y bore

**Mae’n rhaid cael pasbort dilys i deithio, gyda lleiafswm o 6 mis ar ôl dyddiad y daith**

Cost

Mae’r daith wedi’i hariannu’n llawn gan yr Urdd (Grant Llywodraeth Cymru), gan gynnwys llety, bwyd a theithio.

Ar ôl i’r ymgeiswyr llwyddiannus gael eu dewis, bydd angen talu ffi gadarnhau o £30 i sicrhau eich lle. Os ydych yn teimlo y gallai hyn fod yn anodd neu’n peri pryder o unrhyw fath, mae croeso i chi gysylltu â ni ar rhyngwladol@urdd.org — rydym yn fwy na pharod i drafod opsiynau a chefnogi lle bo angen.

Oedran:

  • Rhaid bod rhwng 15–17 oed ar ddiwrnod cyntaf y daith.

Llety:

Bydd mynychwyr yn aros yn y ‘geltach’, gan aros gyda teuluoedd Gwyddelig, sydd yn rhan bwysig o’r cyfnewid diwylliannol.

  • Rhannu ystafelloedd (does dim dewis ar sail ffrindiau). Bydd yr Urdd wedi benodi ystafelloedd.

Profiad:

Rhaid bod yn barod i ddysgu a chanu o flaen cynulleidfa (fel rhan o grŵp, neu yn unigol os ydych ddigon hyderus)

  • Os ydych yn gallu chwarae offerynnau, bydd bosib i chi deithio gyda nhw.
  • Bydd ‘sioe dalent’ lle bydd disgwyl i griw’r Urdd baratoi perfformiadau i gynnwys yn yr amserlen.

Eich gwaith ar-lein:


Bydd y cynhyrchiad terfynol yn ymddangos ar sianeli cymdeithasol yr Urdd ac ar blatfform enwog TG Lurgan YouTube.

Rhowch Gais Nawr!

Dyddiad cau - 23:59 - 28 Ebrill