Cyfle i fynychu Cwrs Cyfathrebu ym Mhrifysgol Florida!
Ydych chi’n aelod o’r Urdd ac angerddol am gyfathrebu, newyddiaduraeth neu’r cyfryngau? Dyma’ch cyfle i wneud cais am le ar gwrs cyffrous sy’n cynnig profiadau unigryw ac ymarferol mewn prifysgol o’r radd flaenaf!
Mae’r Urdd yn cynnig cyfle arbennig i 4 aelod o Flwyddyn 11 a 12 yn yr ysgol i ymgeisio i fod yn rhan o gwrs cyfathrebu 6 diwrnod ym Mhrifysgol Florida, UDA fis Mehefin 2025!
Dyddiad y daith: Teithio allan ar y 21/06/2025 (6 diwrnod ar y cwrs) yna dychwelyd yn ôl i Gymru ar y 28/06/2025
- Mae rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod dros 16 oed ar ddyddiad cyntaf y daith
- Noson gyntaf y daith byddwch yn aros mewn gwesty yn Florida gydag ychydig o amser rhydd, yna byddwch ar y campws drwy gydol y daith dan ofal y Brifysgol.
- Bydd aelod o staff yr Urdd gyda chi.
- Bydd y daith wedi ei ariannu yn llawn gan yr Urdd a Phrifysgol Florida, sydd yn cynnwys eich costau teithio, llety a bwyd.
- Does dim angen paratoi ar gyfer y cwrs, ond rydym yn disgwyl ceisiadau gan unigolion sydd eisiau datblygu sgiliau yn y maes yma.
- Bydd disgwyl i'r mynychwyr rannu ystafelloedd gyda myfyrwyr eraill ar y cwrs.
- Sicrhewch fod gennych basbort dilys (gyda lleiafswm o 6 mis arno) cyn i chi wneud cais!
Amserlen y cwrs:
Nid yw amserlen 2025 wedi cael ei gyhoeddi eto, ond dyma flas o amserlen 2024 i roi syniad o beth fydd cynnwys y cwrs - 2024-SMI-Schedule.pdf
Peidiwch â cholli’r cyfle i ddatblygu’ch sgiliau a chael blas ar yrfa yn y diwydiant cyfryngau. Gwnewch gais nawr!
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23:59 05/05/2025
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Rhyngwladol@urdd.org
Gwnewch gais nawr!
Galeri o gwrs 2024





