Rydym yn cynnig cyfle unigryw i bedwar o gantorion talentog, yn aelodau o’r Urdd ac rhwng 21–25 oed, deithio i’r Unol Daleithiau a pherfformio yn Efrog Newydd a Philadelphia fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Mae’r daith wedi’i threfnu ac ariannu mewn partneriaeth gyda Chymdeithasau Cymry Gogledd America. Dyma’r pumed tro yn olynol i bobl ifanc yr Urdd fwynhau’r profiad unigryw hwn.
Rydym yn chwilio am:
Un soprano
Un alto
Un tenor
Un bas
Gallwch wneud cais fel pedwarawd, deuawd neu fel unigolyn. Os byddwch yn cael eich dewis, byddwch yn gyfrifol am ymarfer gyda’ch gilydd a pharatoi eich rhaglen eich hun.
Os ydych yn ymgeisio fel grŵp neu ddeuawd, mae croeso i chi rhoi cais fel unigolyn hefyd.
Bydd eich set perfformiad yn cynnwys (ond gall newid)
2 darn unigol (i bob canwr)
4 pherfformiad grŵp
Ychydig o ddarnau ensemble llai
Dyddiadau a Thrafnidiaeth
Teithio allan: Dydd Iau 27Chwefror 2026 ( Hedfan o Faes Awyr Heathrow Llundain)
Dychwelyd adref: Hedfan nos Sul 8 Mawrth, yn cyrraedd Llundain bore Dydd Llun 9 Mawrth 2026.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwch yn teithio ar ran yr Urdd, gyda thrafnidiaeth, llety wedi’u talu gan Gymdeithasau Cymry Gogledd America a’r Urdd. Bydd aelod o staff yr Urdd yn teithio gyda chi.
Dyma gyfle unigryw i gynrychioli Cymru, dangos eich llais ar lwyfan rhyngwladol, a bod rhan o ddathliad cofiadwy o ddiwylliant Cymreig dramor.
Os ydych yn gantor hyderus gyda’r angerdd, ymroddiad, a chreadigrwydd i baratoi rhaglen perfformio o safon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I wneud cais, rhaid i chi:
Bod rhwng 21–25 oed ar y diwrnod cyntaf o’r daith (27 Chwefror)
Bod yn aelod o’r Urdd
Gydapasbort dilys (yn ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl dyddiad dychwelyd)
Cadarnhau nad oes gennych reswm na allwch gael ESTA (System Awdurdodi Teithio Electronig) i deithio i’r UDA.
Cais:
Llenwch y ffurflen gais yma, a chyflwynwch ddolen WeTransfer / neu fideo o’ch perfformiad i Rhyngwladol@Urdd.org cyn Dydd Mercher 12fed o Dachwedd.
