Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi 2025, teithiodd pedwar o gantorion ifanc talentog yr Urdd i berfformio mewn cyngherddau Dydd Gŵyl Dewi yng nghwmni Cymdeithasau Cymraeg Gogledd America.
Yn cynrychioli'r Urdd, a Chymru, oedd Gwenan Mars, Huw Jones, Celyn Stewart a Lloyd Williams.
Perfformiodd y criw mewn sawl digwyddiad cyffrous, mewn tair dinas gwahanol – Philadelphia, Efrog Newydd a Washington D.C.
Mae teithiau fel hyn yn galluogi’r Urdd roi profiad perfformio ar lwyfan rhyngwladol i bobl ifanc Cymru, gan helpu'r rhai sy'n adeiladu gyrfa canu broffesiynol. Roed yn gyfle gwych i’r unigolion fagu hyder, ac i ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd.
Yn Efrog Newydd, roedd gwasanaeth hyfryd yn Eglwys y Cymry, ac yna mewn bar sydd â pherchennog o Gymru - The Liberty. Yn Philadelphia oedd y digwyddiad mwyaf, sef Cinio Mawreddog Cymdeithas Gymraeg Philadelphia, i ddathlu Dewi Sant. Cynhaliwyd gwasanaeth yn Eglwys Bresbyteraidd Gymreig Arch Street Philadelphia hefyd. Yn Washington D.C. roedd digwyddiad Gŵyl Ddewi Llywodraeth Cymru Gogledd America yn y Llysgenhadaeth.
Mae’r pedwar cantor wedi ennill hyder yn eu hunain fel pobl ifanc, ond hefyd fel perfformwyr, gan eu helpu i ddatblygu ymhellach yn eu gyrfaoedd. Dyma beth oedd gan un o’r perfformwyr i’w ddweud:
"Wnaeth hyn rhoi gymaint o brofiad i mi yn canu mewn cymaint o lefydd gwahanol, o flaen pobl wahanol. Ac yr addasu trefn y caneuon. Dwi’n teimlo fy mod i bellach yn fwy hyderus i berfformio heb lot o syniad am be sydd i ddisgwyl o flaen llaw."
Trefnwyd rhan fwyaf o’r digwyddiadau yma gan Gymdeithas Gymraeg Philadelphia, a hoffai’r Urdd ddiolch yn fawr iawn iddyn nhw am wneud y cyfle bythgofiadwy yma’n bosib i bobl ifanc Cymru. Mae’r Urdd yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu ei bartneriaeth gyda chymdeithasau a sefydliadau yn yr Unol Daleithiau, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc o Gymru.