Cyfansoddi: Cerdd Dant

Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2019
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

341. Cyfansoddi Cainc dan 25 oed

Cyfansoddi cainc o’r un arddull/naws ac alawon ‘Tant i’r Plant’, Gwasg Gwynedd.

Dylid cyflwyno’r gwaith ar ffurf nodiant neu drac sain.

Os bydd teilyngdod, ystyrir defnyddio’r gainc fuddugol yn un o Eisteddfodau’r dyfodol

 

342. Cyfansoddi Gosodiad dan 25 oed

Cyfansoddi gosodiad ar unrhyw eiriau a chainc o’r gyfrol ‘Tant i’r Plant’, Gwasg Gwynedd

Beirniad: Bethan Antur

Dylid cyflwyno’r gwaith ar ffurf nodiant neu drac sain.