Cyfansoddi: Cerddoriaeth

Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2019
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

335. Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl.6 ac iau

Cyfansoddiad lleisiol a/neu offerynnol.
Caniateir cywaith.
Dylid cyflwyno copi o’r gerddoriaeth wedi ei chofnodi’n addas ar bapur neu ar CD, ffeil MIDI neu MP3 neu gellir e-bostio’r gwaith fel ffeil PDF, MIDI neu MP3.
Beirniad: Rhodri Harries

336. Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl.7, 8 a 9

Cyfansoddi cân â chyfeiliant ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd.
Dylid cyflwyno copi o’r gân wedi ei chofnodi’n addas ar bapur neu ar CD, ffeil MIDI neu MP3 neu gellir e-bostio’r gwaith fel ffeil PDF, MIDI neu MP3.
Caniateir gwaith unigol neu gywaith.
Beirniad: Owain Gethin Davies

337. Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl. 10 ac 11

Cyfansoddi darn o gerddoriaeth (mewn unrhyw gyfrwng) gyda chyswllt Cymreig heb fod yn hwy na 5 munud.
Dylid cyflwyno copi o’r gerddoriaeth wedi ei chofnodi’n addas ar bapur neu ar CD, ffeil MIDI neu MP3 neu gellir e-bostio’r gwaith fel ffeil PDF, MIDI neu MP3.
Ni ddylid cyflwyno’r un gwaith a anfonir i gystadleuaeth 338 i gystadleuaeth 340.
Beirniad: Nia Wyn Jones

338. Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl.12 a 13

Cyfansoddiad lleisiol ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd.
Dylid cyflwyno copi o’r gerddoriaeth wedi ei chofnodi’n addas ar bapur neu ar CD, ffeil MIDI neu MP3 neu gellir e-bostio’r gwaith fel ffeil PDF, MIDI neu MP3.
Gwobr: Tlws Coffa Gerallt Richards
Beirniad: J Eirian Jones

339. Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl.10 a dan 19 oed

Cyfansoddi darn o gerddoriaeth ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau heb fod yn hwy na 5 munud.
Dylid cyflwyno copi o’r gerddoriaeth wedi ei chofnodi’n addas ar bapur neu ar CD, ffeil MIDI neu MP3 neu gellir e-bostio’r gwaith fel ffeil PDF, MIDI neu MP3.
Ni ddylid cyflwyno’r un gwaith a anfonir i gystadleuaeth 340 i gystadleuaeth 338.
Beirniad: Robat Arwyn