Creu Ap
Y Dasg: Cystadleuaeth creu gêm ddigidol gan ddefnyddio’r Urdd fel ysbrydoliaeth.
- Gall fod yn Ap ar gyfer dyfais symudol, tabled (neu’r ddau), neu yn Ap sy’n gallu gweithio o fewn gwefan.
- Gellir cyflwyno’r Ap naill ai ar bapur neu yn ddigidol fel dogfen WORD, PDF, neu FLASH gan nodi ei swyddogaeth h.y. beth yw pwrpas yr Ap? Sut y bydd yn gweithio ac yn y blaen.
- Dylid cynnwys dyluniadau o’r syniad. Mae modd lawrlwytho templedi tabled yn rhad ac am ddim e.e Interface Sketch.
- Caniateir defnyddio meddalwedd 3ydd parti e.e Scratch.
- Rhaid e-bostio cyfeiriad eich gwefan i cyfansoddi@urdd.org erbyn 1 Mawrth 2019
344. Creu Ap Bl.6 ac iau
345. Creu Ap Bl.7, 8 a 9
346. Creu Ap. Bl.10 a dan 19 oed
347. Creu Ap dan 25 oed ag eithro disgyblion ysgol
Creu Gwefan
Y Dasg: Cynllunio cyfres gysylltiedig o dair tudalen o leiaf ar y wê yn y Gymraeg (neu’n ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf).
- Rhaid i’r gwaith fod ar gael ar y wê cyn i chi anfon eich ffurflen gais atom.
- Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu ar-lein a rhaid iddynt aros heb eu newid ar-lein tan 1 Gorffennaf 2019.
- Rhaid e-bostio cyfeiriad eich gwefan i cyfansoddi@urdd.org erbyn 1 Mawrth 2019 gyda enwau’r aelodau wedi’i amgáu mewn amlen dan sêl. Byddwch yn derbyn e-bost o fewn 7 diwrnod i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich ffurflen.
348. Creu Gwefan Bl. 6 ac iau (unigol neu grŵp)
349. Creu Gwefan Bl. 7, 8 a 9 (unigol neu grŵp)
Creu Ffilm (cystadlaeaeth newydd)
Y Dasg: Creu ffilm heb fod yn hwy na 10 munud ar syniad gwreiddiol.
- Gellir dewis themau sy'n cael eu dilyn mewn dosbarth neu materion sy'n codi gan bobl ifnac
- Oherwydd Hawlfraint ni fydd hawl defnyddio cerddoriaeth boblogaidd
- Rhaid defnyddio cerddoriaeth sydd ar gael am ddim newu wedi'i greu gan y disgyblion
- Rhaid e-bostio cyfeiriad eich gwefan i cyfansoddi@urdd.org erbyn 1 Mawrth 2019
350. Creu Ffilm – Oedran Bl.6 ac iau
351. Creu Ffilm – Oedran Bl.7 – 19 oed
Y gystadleuaeth hon mewn cydweithrediad â IntoFilm Cymru
Cynnwys Digidol
Y Dasg: Creu darn o gynnwys fideo
- Dim hwy na 3 munud
- Canieteir ffilm, animeiddiad neu gyflwyniad
- Cyflwynir y gwaith yn ddigidol
- Rhaid e-bostio cyfeiriad eich gwefan i cyfansoddi@urdd.org erbyn 1 Mawrth 2019
352. Cynnwys Digidol – Oedran Bl.6 ac iau
353. Cynnwys Digidol – Oedran Bl.7 – 19 oed