Prosiect Gwyddonol

Dyddiad Cau: 1 Mawrth 2019
Cofiwch fod rhaid ymaelodi gyda'r Urdd cyn cystadlu!

Y Dasg

Creu prosiect gwyddonol yn y maes gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg, peirianneg neu fathemateg.

  • Dylai ffocws y prosiect fod ar ffurf Gwaith Ymchwil, Ymchwiliad neu Gyflwyniad. Gellir defnyddio prosiect/proffilCrest, EESW neu debyg pe dymunir.
  • Dylai’r gwaith gael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg ar fformat electronig neu ar bapur.
  • Mae rhyddid i’r cystadleuwyr ddewis eu thema eu hun, a gweler syniadau ar wefan www.britishscienceassociation.org/crest-awards neu www.stemcymru.org.uk


356. Prosiect Gwyddonol Bl.7, 8 a 9: Cyflwyno adroddiad hyd at 1000 o eiriau ar unrhyw bwnc STEM (Unigolyn neu grwp)

357. Prosiect Gwyddonol Bl.10 a dan 19 oed: Cyflwyno adroddiad hyd at 2500 o eiriau ar unrhyw bwnc STEM (unigol neu grwp)