Dathlu Gŵyl Cymru Gogledd America 2025: Ottawa, Canada 

 

Dyma gyfle arbennig i bedwar dawnswyr sy'n aelodau o'r Urdd i berfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, Canada fis Awst 2025! 

Bydd y 4 sy'n cael eu dewis yn perfformio yn unigol ac fel pedwarawd. Does dim rhaid eich bod o'r un Aelwyd / Coleg / Ysgol / grŵp, ond bydd angen i chi berfformio ar y cyd yn ystod y daith. 

Bydd gofyn i'r unigolion llwyddiannus ddawnsio rhwng 2 a 3 darn o ddawns unigol. Byddwn yn edrych am unigolion sydd yn gallu dangos sgiliau dawnsio Cymreig traddodiadol, ond bydd cyfle hefyd i wneud fersiynau mwy cyfoes / modern. 

Bydd coriograffwr yn gweithio gyda'r 4 rhwng Gwanwyn ac Awst 2025 wrth baratoi at y daith.

Dyddiad y daith: diwedd mis Awst 2025, dyddiadau union i'w cadarnhau.

Mi fyddwch yn teithio yn enw'r Urdd gyda chostau teithio, llety a bwyd wedi’u talu gan yr ŵyl. Bydd aelod o staff yr Urdd ar y daith gyda chi.

Mwynhau dawns, neu'n adnabod rhywun sydd? Menteisiwch ar y cylfe unigryw yma i berfformio a chynrychioli'r Urdd draw yng Nghanada! 

Bydd angen i’r ymgeiswyr llwyddiannus fod rhwng 18 -25 mlwydd oed, gyda phasbort dilys (6 mis o ddyddiad ar ôl ym mis Awst). Os oes llai na 6 mis ar ôl gennych, ymgeisiwch am un newydd ar-lein mor fuan a phosib.

Rydyn ni’n disgwyl nifer fawr iawn o geisiadau, i gynorthwyo ni gyda’r gwaith, plîs sicrhewch eich bod wedi llenwi’r ffurflen ymgeisio yn llawn ac yn anfon eich fideos drwy WeTransfer neu rannu linc DropBox / WeTransfer i ni lawr-lwytho. Rhowch y wybodaeth yma yn y ffurflen ymgeisio os gwelwch yn dda. 

Mae'r cyfle'n agored i bawb sy'n aelod o'r Urdd felly ewch amdani - rhowch gais i mewn cyn hanner nos 6 Chwefror.

Dyddiad Cau: 6 Chwefror | 12  - hanner nos

Partneriaeth yr Urdd â'r Ŵyl

Sefydlwyd yr Urdd bartneriaeth gyda Gŵyl Gogledd America ar ôl derbyn rhodd hael gan y diweddar Dr John M. Thomas. Mi roedd Dr Thomas yn Gymro oedd wedi ymgartrefu yn Florida, ond fe gadwodd gysylltiadau agos â'i wreiddiau Cymreig drwy atgofion o Eisteddfodau ei blentyndod. Yn ei ewyllys, dymunodd i roi'r cyfle i bobl ifanc Cymru i deithio a pherfformio, fel roedd o'n cofio ei wneud yn ifanc. Hoffai'r Urdd ddiolch i Dr Thomas a'r teulu am wneud y cyfle bythgofiadwy yma yn bosib i bobl ifanc Cymru.

Mae wythnos yr ŵyl yn dathlu diwylliant Cymreig wrth gynnal Eisteddfod, cyngherddau a ddetholiad o weithgareddau gwahanol. Ewch yma i ddysgu mwy ar yr ŵyl.