Teitl y Swydd: Swyddog Datblygu Chwaraeon Gorllewin Morgannwg, Brycheiniog, a Maesyfed
Math o gontract: Swydd 12 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 4: £27,200 - £29,916
Lleoliad: Swyddfa Llansamlet
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled Jones (Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon) ar aled@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 19 Ebrill 2024
Dyddiad Cyfweld – i’w gadarnhau
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.