Rheolau’r Eisteddfod 

"Mae Urdd Gobaith Cymru yn disgwyl i gystadleuwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr ymrwymo i ysbryd o chwarae teg yn holl weithgareddau'r Mudiad"

Cliciwch ar y blwch ar y dde er mwyn gweld rhestr gyflawn o reolau Eisteddfod yr Urdd.

Darllediadau

Mae Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn ddigwyddiad sy’n cael cryn sylw gyda’r cyfryngau. Darlledir yn fyw ar y teledu a radio a cheir adroddiadau a lluniau mewn amryw o bapurau newydd cenedlaethol a lleol ynghyd â bwletinau cyson ar newyddion teledu a radio. Wrth gofrestru i gystadlu, mae arweinydd y gangen neu’r aelod unigol yn cadarnhau a chytuno bod pob cystadleuydd yn cydymffurfio gyda hawliau darlledu’r Genedlaethol (yn unol â phwynt 27 yn Rheolau Cyffredinol Rhestr Testunau 2019) all olygu darlledu delweddau o’r aelodau yn fyw ar y teledu, ail ddarllediadau hwyrach a darllediadau ar wefan yr Urdd ac o bosibl sefydliadau eraill.

Mewn Eisteddfodau Cylch a Sir, mae’r Urdd yn tynnu lluniau cystadleuwyr ar gyfer dibenion hyrwyddo’r digwyddiadau yn y wasg. Wrth lenwi ffurflen gystadlu, mae arweinydd y gangen yn cadarnhau a chytuno bod pob cystadleuydd yn cydymffurfio gyda hawl yr Urdd i dynnu lluniau cystadleuwyr ar gyfer y dibenion a nodir.

Cewch restr lawn o Reolau'r Eisteddfod, yn ogystal â rheolau ar gyfer pob adran yn y linc isod. 

Trefn Cystadlu (Ar gael o fis Ionawr ymlaen)

Cliciwch ar y blwch 'Trefn Cystadlu' ar y dde er mwyn gweld rhestr o ba gystadlaethau sy'n cael eu cynnal ar ba ddiwrnod. Noder fod gan staff Adran yr Eisteddfod yr hawl i newid y drefn.

Hawlfraint

Mae’n rhaid i bob cystadleuydd sicrhau hawlfraint ar gyfer pob darn sydd yn hunan-ddewisiad. Oni wneir hyn ni ellir darlledu'r perfformiad.  Gellir ffonio Adran Gymraeg PRS for Music ar 020 7306 4033. Nid oes angen caniatâd gyda’r darnau sy’n ymddangos yn y Rhestr Testunau.
Mae rhagor o wybodaeth yn y ddogfen ar y dde. 

Enwau Swyddogol Canghennau'r Urdd

1. Adran Ysgol Pob cangen sydd yn gweithredu o fewn naill ai Ysgol Gynradd neu Ysgol Uwchradd yn unig.
2. Adran/Aelwyd Cangen o’r Urdd sy’n agored i holl aelodau cofrestredig y Mudiad o’r oedran priodol sy’n cyfarfod ac yn ymarfer yn annibynnol o’r gyfundrefn addysgol y tu allan i oriau a threfniant ysgol neu goleg, gyda’u rhaglen o weithgareddau o dymor yr Hydref ymlaen heb fod yn estyniad o waith yr Urdd o fewn ysgol neu goleg.
3. Ysgolion Perfformio/Arbenigol Croesawir Ysgolion Perfformio/Arbenigol i gystadlu yn yr Eisteddfod yn y categori ar gyfer unrhyw aelod o’r Urdd o dan yr oedran priodol, h.y. y cystadlaethau hynny nad sy’n nodi eu
bod ar gyfer unrhyw gategori arbennig. Os ydych angen rhagor o arweiniad, croeso i chwi gysylltu gyda unrhyw un o Swyddfeydd Adran yr Eisteddfod.
Er mwyn cael yr hawl i gystadlu, rhaid i bob cangen o’r Urdd, boed yn Adran, Aelwyd, Ysgol neu Ysgol Berfformio/Arbenigol gofrestru gyda’r Mudiad yn flynyddol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa’r Urdd, Llangrannog neu cliciwch yma.

Canllawiau i Feirniaid: