Taith Côr yr Urdd i Alabama yn 2022!

Yn ystod Gwyliau’r Pasg 2022, teithwyd Côr yr Urdd i Birmingham, Alabama, ac Atlanta, Georgia.

Yn ystod eu hymweliad, buant yn perfformio yn yr University of Alabama at Birmingham (UAB) gyda Chôr Gospel UAB, yng Ngwasanaeth Pasg y 16th Street Baptist Church, a'r First Congregational Church yn Atlanta ble cyfarfuwyd y côr ag Andrew Young.

Yn ystod y daith, wnaethant hefyd ymweld â Selma a Montgomery. Cafwyd taith dywys o amgylch y ddwy ddinas gan hanesydd lleol ac ymweld ag amgueddfeydd i ddysgu mwy am hanes y mudiad hawliau sifil.

Cafwyd y côr hefyd y cyfle i fwynhau cyngherddau clasurol, jazz a blues tra ym Mirmingham.

Cryfhawyd y berthynas rhwng Cymru a Birmingham, wrth i'r bobl ifanc ddod at ei gilydd i fwynhau cerddoriaeth gospel a rhannu diwylliannau.

Y gobaith yw bydd côr gospel UAB yn teithio i Gymru i berfformio yn Eisteddfod yr Urdd 2023 a dysgu mwy am draddodiadau a diwylliannau Cymreig.

Galeri'r daith