Mae ‘Gwobr Dysgu tu allan i’r Dosbarth’ yr Urdd yn gynnig newydd, cyffroes ar gyfer ysgolion cynradd! Mae swyddogion adrannau awyr agored, prentisiaethau a ieuenctid a chymuned yr Urdd yn gallu darparu’r Wobr o fewn eich safle ysgol, neu mewn lleoliadau addas gyfagos.
Mae dysgu tu allan i'r dosbarth mor werthfawr i addysg a datblygiad plant a phobl ifanc. Mae’n ymwneud â chodi cyflawniad pobl ifanc trwy ddull trefnus, pwerus o ddysgu gyda pwyslais ar brofiad uniongyrchol o ddysgu.
Er mwyn cwblhau’r Wobr, mae’n rhaid i’r plant gwblhau 4 gweithgaredd hanner diwrnod sydd wedi eu selio ar y themâu isod:
Datrus Problemau a Gwaith Tîm
Sesiynau wedi eu cynllunio i alluogi dysgwyr iamlygu pwysigrwydd :
- Sgiliau cyfathrebu, creadigrwyd
- Meithrin y gallu i rannu syniadau
- Adfyfyrio arlwyddiannau a methiannau.
- Ail gysylltu â chyd ddisgyblion
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy sydd yn ddefnyddiol ym mhob agwedd o fywyd dydd i ddydd.
Antur Fach!
Anturiaethau byr y gellir eu cyflawni yn eich ardal leol neu ar dir yr ysgol gan ddyblygu dealltwriaeth dysgwyr o’u cynefin naturiol a diwylliannol ac yn cyfrannu at dargedau’r Siarter Iaith. Bydd yr Antur Fach yn cynnwys
- profi antur yn yr awyr agored
- sgiliau gwersylla a sgiliau gwylltgrefft
- datrys problemau
- saethyddiaeth
a llawer o weithgareddau eraill………
Y Celfyddydau
Cyfres o weithdai sydd yn deffro’r dychymyg yn y celfyddydau mynegiannol. Dyma flas ar rai o’r sesiynau:
- Ysgrifennu a chreu film neu sesiwn radio
- Gweithdai dawns
- Gweithdai ysgrifennu creadigol
- Cyfansoddi a recordio can
- Celf
Cymraeg a Cymreictod
Bydd yr holl ddarpariaeth ar gael yn y Gymraeg gan sicrhau ein bod yn cyfateb a gofynion eich ysgol ar gyfer eich targedau Siarter Iaith.
Bydd swyddogion yr Urdd yn trefnu gweithgaredd sydd wedi ei selio ar y themâu. Bydd y cynnwys yn cael ei deilwra yn arbennig i anghenion yr ysgol a’r dysgwyr drwy drafodaeth ac yn ddibynnol ar eich lleoliad.
Gall ein hyfforddwyr weithio gyda grwpiau o 30 ar y tro. Mae enghreifftiau isod o’r math o amserlen sydd ar gael i’ch ysgol:

Enghraifft 1 – 60 o blant dros 4 diwrnod ysgol
Thema 1 – Datrys Problemau a Gwaith Tîm Nifer o sialensau a gemau hwyl er mwyn hybu cydweithio a dod i adnabod y plant. 9:30-12:15 – Dosbarth 1 12:45 – 15:30 – Dosbarth 2 |
Thema 3 – Y Celfyddydau Creu a chwarae offerynnau! 9:30-12:15 – Dosbarth 1 12:45 – 15:30 – Dosbarth 2 |
Thema 2 – Antur Fach! Adeiladu Lloches a coginio ar y tân! 9:30-12:15 – Dosbarth 1 12:45 – 15:30 – Dosbarth 2 |
Thema 4 – Cymraeg a Cymreictod Creu rhaglen radio! 9:30-12:15 – Dosbarth 1 12:45 – 15:30 – Dosbarth 2 |
Enghraifft 2 – 30 o blant dros 2 ddiwrnod ysgol – Diwrnod 1 – Thema 1+2 / Diwrnod 2 – Thema 3+4
Thema 1 – Datrys Problemau a Gwaith Tîm Nifer o sialensau a gemau hwyl er mwyn hybu cydweithio a dod i adnabod y plant. 9:30-12:15 – Dosbarth 1 |
Thema 3 – Y Celfyddydau Creu a chwarae offerynnau! 9:30-12:15 – Dosbarth 1 |
Thema 2 – Antur Fach! Adeiladu Lloches a coginio ar y tân! 12:45 – 15:30 – Dosbarth 1 |
Thema 4 – Cymraeg a Cymreictod Creu rhaglen radio! 12:45 – 15:30 – Dosbarth 1 |
Costau
Gwobr Llawn dros 2 ddiwrnod i hyd at 30 - £400
Gwobr Llawn dros 4 diwrnod i hyd at 60 - £800
Ymweliadau Diwrnod
Os nad ydych eisiau dilyn y Wobr lawn, ond â diddordeb i ni ymweld â chi er mwyn darparu unrhyw un o’n sesiynau sydd wedi selio ar y themâu uchod, cysylltwch i drafod.
Gall ein hyfforddwyr weithio gyda grwpiau o 30, ac uchafswm o 60 ar y tro. Mae enghreifftiau isod o brisiau a’r math o amserlen sydd ar gael i’ch ysgol:
Enghraifft 1 – hyd at 30 ar y tro – 120 o blant - £200 9:30-10:45 – Dosbarth 1 11:00-12:15 – Dosbarth 2 12:45-14:00 – Dosbarth 3 14:15-15:30 – Dosbarth 4 |
Enghraifft 3 – hyd at 60 ar y tro – 240 o blant £400 9:30-10:45 – Dosbarth 1+2 11:00-12:15 – Dosbarth 3+4 12:45-14:00 – Dosbarth 5+6 14:15-15:30 – Dosbarth 7+8 |
Enghraifft 2 – 30 ar y tro – 60 o blant £200 9:30-12:15 – Dosbarth 1 12:45 – 15:30 – Dosbarth 2 |
Enghraifft 4 – hyd at 60 ar y tro – 120 o blant £400 9:30-12:15 – Dosbarth 1 + 2 12:45 – 15:30 – Dosbarth 3 + 4 |
*Mae’r gwasanaeth ar gael i bob oedran ysgol.
