Hanes

Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd partneriaeth newydd tair blynedd rhwng yr Urdd a'r asiantaeth rhyngwladol United Purpose i gynnig cyfleoedd i brentisiaid ifanc yr Urdd ennill profiad yn gweithio mewn gwledydd ar draws Affrica, Asia a De America.

Ers hyn, mae criw o staff, prentisiaid a gwrifoddolwyr chwaraeon yr Urdd wedi ymweld a elusen Moving The Goalposts yn Kilifi, Kenya yn 2019 a 2023. 

Ebrill 2023

Yn mis Ebrill 2023 aeth 10 o staff, cyn-brentisiaid, prentisiaid presennol a gwirfoddolwyr yr Urdd i sir Kilifi, Kenya.

Nod y daith oedd i ddefnyddio sgiliau hyfforddi ac arwain i ddatblyg a grymuso merched ifanc gydag elusen MTG.

Amcanion y daith oedd i ddefnyddio chwaraeon i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, cynnal ac arwain gweithgareddau pel-droed gyda staff MTG, a codi hyder a lles y merched ifanc trwy drafod materion cyfoes.

 

Galeri taith Kenya 2023

Awst 2019

Ym mis Awst 2019 aeth 4 o brentisiaid yr Urdd allan i Kenya i weithio ar gynllun ‘Moving the Goalposts’ gydag United Purpose

Cam cyntaf y bartneriaeth oedd yr ymweliad i Kenya wrth i’r bobl ifanc weithio ar un o brif brosiectau chwaraeon United Purpose, sef Moving the Goal Posts, sy'n defnyddio chwaraeon i hyrwyddo arweinyddiaeth a chodi hyder merched yn y gymuned yn nhref Kilifi.

Yn ystod y daith fe fu’r prentisiaid yn cynnal ac arwain gweithgareddau pêl-droed gyda dros 400 o ferched ifanc i gynyddu eu hyder, datblygu sgiliau a chynnig hyfforddiant arweinyddiaeth.

Mared, Ryan, Rhodd, Gethin a Lauren o'r Urdd gydag Elinor Snowsill, Llysgennad United Purpose, a merched o brosiect Moving the Goalposts, Kilifi, Kenya
Mared, Ryan, Rhodd, Gethin a Lauren o'r Urdd gydag Elinor Snowsill, Llysgennad United Purpose, a merched o brosiect Moving the Goalposts, Kilifi, Kenya

Galeri taith Kenya 2019