Hanes

Ym mis Mawrth 2020, lansiwyd partneriaeth newydd gyffrous rhwng yr Urdd a TG Lurgan, mudiad ieuenctid yn Iwerddon.

Mae’r Urdd a TG Lurgan bellach yn cynllunio eu 3ydd prosiect mewn person yn dilyn llwyddiant ymweliad ag Iwerddon llynedd a Chwrs Pasg Glan-llyn 2023.
 
Cadwch lygaid allan am mwy o wybodaeth i ddod yn fuan!
 

Pwy yw TG Lurgan?
Mae TG Lurgan yn fudiad ieuenctid arbennig yn Iwerddon. Eu bwriad yw hyrwyddo'r Wyddeleg a gwneud yr iaith yn apelgar i bobl ifanc trwy ganeuon cyfoes. Mae eu sianel YouTube yn cynnwys degau o gynhyrchiadau cerddorol trawiadol yn Y Wyddeleg, ac wedi denu miliynau o wylwyr!

Mehefin 2022 - Taith yr Urdd i Iwerddon

Yn dilyn llwyddiant y ddau cyd-gynhyrchiad rhithiol gyda TG Lurgan, fe drefnwyd bod aelodau o'r Urdd yn teithio draw i Connemara yn Iwerddon i greu'r cyd-gynhyrchiad cyntaf mewn person. Penderfynwyd i greu addasiad o gan boblogaidd Adele, 'Water Under the Bridge' yn y Gymraeg a'r Wyddeleg.

Ar ôl gwario noson yng Nglan-llyn ar yr 22ain o Fehefin, teithiwyd 16 o bobl ifanc 15 i 18 oed yn enw'r Urdd draw i Connemara, sef un o ardaloedd y 'Gaeltacht' i'r gogledd o Galway.

Cafwyd 4 diwrnod prysur yn Connemara yn ymarfer y gan, recordio a ffilmio'r fideo ar gyfer sianel youtube TG Lurgan. Creuwyd ffrindiau newydd ar y daith wrth i aelodau'r Urdd a phobl ifanc TG Lurgan rhannu diwylliannau'r ddwy wlad, megis dulliau cerddol, dawnsio gwerinol a phwysigrwydd a hanes y Gymraeg a Gwyddeleg.

Mawrth 2020

Lansiwyd y bartneriaieth rhwng y ddau fudiad ieuenctid yn Nulyn ym mis Mawrth 2020. Rhoddodd aelodau’r Urdd o Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn, berfformiad cerddorol yn y Gymraeg gan ddilyn arddull cynhyrchiadau TG Lurgan, sy’n cymryd caneuon cyfredol a’u hailgreu yn Y Wyddeleg. Rhoddodd berfformiad cerddorol gan aelodau TG Lurgan hefyd.

Roedd y lansiad yn rhan o Wythnos Cymru Dulyn 2020 a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.

Sian Lewis, Eluned Morgan, Mícheál Ó Foighil ac aelodau o TG Lurgan ac Aelwyd yr Ynys
Sian Lewis, Eluned Morgan, Mícheál Ó Foighil ac aelodau o TG Lurgan ac Aelwyd yr Ynys

Ionawr 2021

Er heriau'r pandemic i'r ddau fudiad, mae'r Urdd a TG Lurgan wedi rhyddhau cyd-gynhyrchiad ar ffurf fideo cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Wyddeleg, a hynny am y tro cyntaf erioed ar y 7fed o Ionawr 2021.

Mae Golau'n Dallu / Dallta ag na Soliseyn addasiad o’r gân boblogaidd ‘Blinding Lights’ gan The Weeknd. Bu i 28 o bobl ifanc o’r ddwy wlad recordio eu lleisiau o gartref a derbyn cyfarwyddiadau gan y fideograffydd Griff Lynch ar gyfer y fideo cerddoriaeth. 

Bwriad y prosiect yw cyflwyno’r ddwy iaith leiafrifol i gynulleidfa fyd-eang, ac mae’r Urdd a TG Lurgan wedi dangos fod ffurfio partneriaeth rhwng y ddwy wlad yn hollbwysig er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu. 

Ebrill 2021

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y fideo cerddoriaeth Cymraeg/Gwyddeleg cyntaf erioed, bu i aelodau o’r Urdd a phrosiect ieuenctid TG Lurgan ryddhau ail gyd-gynhyrchiad, 'Gwenwyn / Nimhneach'.

Penderfynwyd mai addasiad o gân Gymraeg fyddai’r ail gyd-gynhyrchiad, sef ‘Gwenwyn’ gan y band roc a blws, Alffa – y sengl Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify, ac sydd bellach wedi’i ffrydio dros 3 miliwn o weithiau ar draws y platfformau digidol.

Cyhoeddwyd 'Gwenwyn / Nimhneach' ar 22 Ebrill, ac mae'n cynnwys cyfraniadau gan 28 o Gymry a Gwyddelod ifanc. Yn ogystal â pherfformiadau gan gantorion, mae dwy ddawnswraig wedi cydlynu coreograffi gyda’i gilydd hefyd; ceir Elan Elidir yn dawnsio o dan bont ar Lwybr Elai yng Nghaerdydd, ac Aisling Sharkey ar do adeilad Coleg Berfformio’r Phoenix yn Nulyn.

Mae'r addasiad i’w chlywed ar wasanaethau ffrydio fel Spotify hefyd y tro hwn.

Galeri'r daith

Ebrill 2023 - Cwrs Glan-llyn

Yn ystod Gwyliau Pasg 2023, daeth yr Urdd a TG Lurgan at ei gilydd unwaith eto ar gyfer cwrs ar y cyd. Y tro hwn i greu'r 4ydd a'r 5ed cyd-gynyrchiadau, 'Gwalia' gan Gwilym a 'Human' gan y Killers yn Gymraeg a Gwyddeleg.
 
Am y tro cyntaf, cynhaliwyd y cwrs yng Nghymru, yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn. Daeth y bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon at eu gilydd i fwynhau tridiau llawn o recordio’r caneuon, ffilmio, a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol.
 
 

Awst 2023 - 2il daith yr Urdd i Iwerddon

Yn dilyn llwyddiant taith 2022 yr Urdd i Connemara, Iwerddon, penderfynwyd i ail-ymweld â Choleg TG Lurgan a rhoi'r cyfle arbennig i griw newydd o bobl ifanc o Gymru.

Teithiodd 30 o bobl ifanc o Gymru gydag staff yr Urdd draw i Orllewin Iwerddon ar gyfer pedair noson gyda'r Gwyddelod. Yn ystod y cwrs recordiwyd cyd-gynharchiad gwbl newydd yn y Gymraeg a'r Wyddeleg, sef cyfieithiad o'r gan 'We Are Young' gan Fun. Mi fydd y gan yn fyw ar Youtube TG Lurgan ac yn cael ei ryddhau ar ein cyfryngau cymdeithasol ar y 23ain o Hydref.

Yn ystod y cwrs wnaeth y Cymry ifanc hefyd cymryd rhan yn nifer o weithgareddau TG Lurgan, o sesiynau cerddorol i gemau chwaraeon.

Ar noson olaf y cwrs cynhaliwyd gig, ble cafodd y bobl ifanc o Gymru ac Iwerddon y cyfle i berfformio a hefyd mwynhau bandiau Gwyddeleg proffesiynol, fel Seo Linn.

Galeri'r Daith