Côr yr Urdd: Aelwyd Hafodwenog yn Lyon

Teithiodd dros 40 o aelodau'r Urdd i Lyon ar gyfer gêm Cymru v Awstralia er mwyn cynrychioli'r mudiad a Chymru.

Yn arwain fyny i'r gêm gwahoddwyd y côr i'r Pentref Rygbi er mwyn perfformio i fans Cymru, Awstralia a chyhoedd Lyon. Llwyddodd y côr i godi'r awyrgylch yn y Pentref Rygbi gyda'u dawnsio clocsio egnïol, a chafwyd ymateb emosiynol i'w perfformiadau, yn enwedig Calon Lân a chyfieithiad i'r Gymraeg o 'World in Union'.

Ar ôl diwrnod llwyddiannus yn y Pentref Rygbi, cafodd y côr y cyfle arbennig i berfformio i dîm Rygbi Cymru a'u teuluoedd fel oeddent yn gadael y gwesty i'r gêm. Dyma oedd gan un o aelodau o'r côr i'w ddweud am y profiad:

"Roedd pawb yn hynod gyffrous am y gêm ac roedd y profiad o gael canu iddyn nhw ychydig cyn hynny’n eithaf emosiynol."

Ac wrth gwrs i gloi'r diwrnod arbennig - aeth yr holl aelodau i'r stadiwm i brofi Cymru yn ennill yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd!

Cyn teithio adref, cafwyd ymweliad arbennig i ysgol leol yn Lyon. Yno wnaeth y côr berfformio i'r bobl ifanc o Lyon ac wedyn eu dysgu sut i ganu anthem Cymru ac ychydig o ddawnsio gwern a chlocsio. Profiad bythgofiadwy i rannu'r iaith Gymraeg a'r diwylliant gyda'r Ffrancwyr.

Galeri Taith Hafodwenog

 

Chwarae Yn Gymraeg: Lorient a Nantes

Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer gêm Cymru v Georgia yn Nantes, cynhaliwyd sesiynau ‘Chwarae yn Gymraeg’ mewn ysgolion cynradd yn Lorient a Nantes gan staff chwaraeon a chelfyddydol yr Urdd. Wedi’i greu gan yr Urdd, mae ‘Chwarae yn Gymraeg’ yn rhaglen sy’n cyflwyno’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i blant mewn ffordd hwyliog: trwy chwarae a gweithgareddau amrywiol.

Dros gyfnod o wythnos llwyddodd staff yr Urdd i ymweld â 8 o ysgolion yn Llydaw. Roedd yn brofiad arbennig i bawb wrth rannu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig gyda plant ac athrawon Lorient a Nantes, ond hefyd i ddysgu mwy am draddodiadau Llydaweg.

Yn dilyn llwyddiant y daith, hoffai'r Urdd ddatblygu ei pherthynas gyda Llydaw, gyda'r gobaith o deithio yno eto yn fuan.

Galeri Taith Chwarae Yn Gymraeg