Hanes

Ym mis Hydref 2019 bu’r Urdd yn rhan o daith fasnach a diwylliant Llywodraeth Cymru i Japan i gynrychioli ieuenctid Cymru a sefydlu cysylltiad a chyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc y ddwy wlad.

Cafwyd llu o sgyrsiau adeiladol gydag arweinwyr ac uwch swyddogion yno i drafod cydweithio rhwng y ddwy wlad i gynnig cyfleoedd diwylliannol, celfyddydol a chwaraeon i bobl ifanc Cymru a Japan.

Prif Weithredwr yr Urdd yn cwrdd a rhai o uwchswyddogion Rhanbarth Kitakuyshu yn Japan, mis Medi 2020
Prif Weithredwr yr Urdd yn cwrdd a rhai o uwchswyddogion Rhanbarth Kitakuyshu yn Japan, mis Medi 2020

Galeri'r daith

Chwefror 2020

Wedi Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, cyhoeddodd yr Urdd gyfle rhyngwladol newydd i enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel y flwyddyn honno. Diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, bu trefniadau i enillydd yr ysgoloriaeth berfformio yn un o ddathliadau byd-eang Dydd Gŵyl Dewi yn Japan.

Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19 bu'n rhaid gohirio perfformiad enillydd yr ysgoloriaeth, Rhydian Jenkins, at adeg pan fydd teithio yn bosibl ac yn ddiogel.

Yn Chwefror 2020 cafwyd perfformiad arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan Rhydian i gynrychiolwyr ac uwch swyddogion Japan.

Perfformiad gan Rhydian Jenkins, ennilydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 i Faer Kitakyshua wc uwchswyddogion y rhanbarth ar ymweliad a Chymru mis Chwefror 2020
Perfformiad gan Rhydian Jenkins, ennilydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 i Faer Kitakyshua wc uwchswyddogion y rhanbarth ar ymweliad a Chymru mis Chwefror 2020

Beth nesaf?

Yn dilyn Cwpan Rygbi’r Byd a sefydlu cysylltiad cynnes gydag ardal Kitakyushu, rydym yn gweithio i ddatblygu syniadau o gwmpas mynd a timau rygbi o Gymru i Japan a chroesawu timau ieuenctid o Japan yn ôl i Gymru.

Diolch i Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru am y gefnogaeth i’r daith.