Cystadleuaeth y World School Sevens

Mae'r World School Sevens yn gystadleuaeth rygbi 7 bob ochr o dan 18 oed sy'n cael ei chynnal yn Auckland gyda thimoedd yn teithio yno o bob rhan o'r byd. Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni ar yr 17eg a'r 18fed o Ragfyr 2022, gyda 45 o dimau rygbi o 8 gwlad wahanol yn cymryd rhan. Am y tro cyntaf erioed teithiodd tîm o Brydain i'r gystadleuaeth World School Sevens, sef tîm 7 bob ochr yr Urdd, i gynrychioli'r mudiad a Chymru.

Yn 2022 lansiwyd cynllun #FelMerch yr Urdd i ymbweru merched mewn chwaraeon, a chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd y daith yma yn gyfle gwych i'r merched gystadlu ar lwyfan ryngwladol yn erbyn timau 7 bob ochr gorau'r byd.

Dysgu am ddiwylliant a hanes Māori

Yn ogystal â’r cyfle i herio timau 7 bob ochr, cafodd tîm yr Urdd y cyfle i ddysgu am ddiwylliant a hanes Māori, wrth ymweld â Whakaata Māori (Māori TV) a Te Kaha o Te Rangatahi (grwp ieuenctid Māori) yn ardal Auckland.

Ynghyd â’r cyfle i rannu iaith a diwylliant Cymru i bobl yn Seland Newydd, dysgodd y tîm hefyd am iaith (te reo Māori) a diwylliant y Māori yn dilyn sefydlu cyswllt rhwng yr Urdd a Te Taura Whiri i Te Reo Maori (Comisiwn yr iaith Māori). Sefydlwyd y comisiwn hwn er mwyn arwain strategaeth iaith Māori y llywodraeth, ac i ganolbwyntio ar hyrwyddo te reo fel iaith fyw. Ewch yma i'w gwefan i ddysgu mwy. 

Yn dilyn llwyddiant y daith, mae'r Urdd yn gobeithio datblygu'r berthynas rhwng yr Urdd, Cymru a chymunedau Māori Seland Newydd. 

Diolch i Taith, Llywodraeth Cymru, am ariannu'r daith hon a gwneud y cyfleoedd arbennig yma'n bosib.

Galeri'r daith