Yr Urdd yng Ngŵyl Cymry Gogledd America

Sefydlwyd yr Urdd bartneriaeth gyda Gŵyl Gogledd America ar ôl derbyn rhodd hael gan y diweddar Dr John M. Thomas. Mi roedd Dr Thomas yn Gymro oedd wedi ymgartrefu yn Florida, gyda'r dymuniad yn ei ewyllys i roi'r cyfle i bobl ifanc Cymru i deithio a pherfformio. Hoffai'r Urdd ddiolch i Dr Thomas a'r teulu am wneud y cyfle bythgofiadwy yma yn bosib i bobl ifanc Cymru.

Mae wythnos yr ŵyl yn dathlu diwylliant Cymreig wrth gynnal Eisteddfod, cyngherddau a detholiad o weithgareddau gwahanol. Ewch yma i ddysgu mwy ar yr ŵyl.

 

Gŵyl Cymry Gogledd America 2022: Philadelphia

Yn 2022 cynhaliwyd yr ŵyl yn Philadelphia rhwng 31 Awst - 4 Medi.

I gynrychioli'r Urdd yn yr ŵyl, teithwyd Siân Lewis Prif Weithredwr yr Urdd a 4 o bobl ifanc. Cafodd Siriol Elin, Manon Ogwen, Tomos Bohanna a Dafydd Jones eu dewis i gynrychioli’r Urdd draw yn Philadelphia gan banel o feirniaid yn Eisteddfod T 2021 ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Cafodd y cantorion y cyfle i berfformio mewn cyngerdd yn y Perelman Theatre, yn Macy's, tu allan i'r City Hall fel rhan o'r seremoni agoriadol a flashmob yng nghanol y ddinas i ddiddanu a chyflwyno diwylliant Cymreig i bobl y ddinas. Ewch yma i weld y flashmob!

Galeri'r daith

Gŵyl Gogledd America 2023: Lincoln, Nebraksa

Yn dilyn llwyddiant taith llynedd i Ŵyl Cymru Gogledd America, dychwelwyd yr Urdd i’r ŵyl, gan ddod â phedair o berfformwyr newydd o Gymru i Lincoln, Nebraska.

Dewiswyd Ffion Thomas, Nansi Rhys Adams, Sophie Jones ac Eiriana Jones-Campbell ar sail eu perfformiadau yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin eleni.

Yn ystod eu cyfnod yn yr ŵyl perfformiwyd yn y Cyngerdd Nos Iau ochr yn ochr ag enillydd Cân i Gymru 2023, Dylan Morris. Cawsant hefyd gyfle arbennig i ddysgu mwy am dreftadaeth Gymreig yr ardal, wrth ymweld â'r 'Great Plains', cyfarfod a Chymry America a mwynhau nifer o ddigwyddiadau'r ŵyl.

Wedi'r ŵyl, symudwyd ymlaen i Chicago, i ddysgu mwy am hanes y ddinas a chael amser rhydd i grwydro a mwynhau.

Galeri'r Daith